Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Nod yr egwyddorion hyn yw cael gwared ar fwlio, aflonyddu, gwahaniaethu a mathau eraill o ymddygiad amhriodol yn y sector. Byddant hefyd yn helpu cyflogwyr i gyflawni eu gofynion cyfreithiol yn ogystal â chyflwyno cyd-weledigaeth ar gyfer hyrwyddo a sicrhau diwylliant gweithio cadarnhaol.
Dylai pob cyflogwr, gweithiwr, swyddog, gweithiwr asiantaeth, hyfforddai, myfyriwr, tiwtor, gwirfoddolwr, ymddiriedolwr a gweithiwr llawrydd gadw at yr egwyddorion hyn. Mae pawb yn gyfrifol am hyrwyddo a sicrhau gweithle sy’n gynhwysol, yn gadarnhaol ac yn gefnogol.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a sicrhau diwylliant gweithio sy’n amrywiol a chyfartal
-
Rydym yn gwrthwynebu bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu ac ni fyddwn yn goddef ymddygiad o’r fath yn ein sefydliad a’n rhwydwaith ein hunain.
-
Rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i wella diwylliant gweithio’r sector cerddoriaeth.
-
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac wedi ymrwymo i wella amrywiaeth yn ein gweithlu ein hunain.
-
Rydym yn gweld gwerth mewn cynhwysiant, yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, yn croesawu dysgu gan eraill ac yn ystyried pobl i fod yn gyfartal heb ragfarn na ffafrio. Rydym yn meithrin pob perthynas yn seiliedig ar barch at ein gilydd. Byddwn yn gweithio i roi a derbyn adborth mewn ffordd adeiladol, gan wybod y bydd hynny’n gwella creadigrwydd a chynhyrchiant.
-
Byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i wella diwylliant gweithio ein sefydliad ein hunain (e.e. sicrhau cyfle cyfartal mewn unrhyw broses recriwtio a dethol, cynnig polisïau ar gyfer gweithio hyblyg a chontractau sy’n ystyriol o deuluoedd).
-
Byddwn yn annog ymddygiad priodol yn ein sefydliad ein hunain ac yn ein rhwydwaith.
-
Pan fyddwn yn gweithio gydag unigolion o dan 18 oed, byddwn yn sicrhau y rhoddir hyfforddiant a chyngor diogelu priodol i’n staff a’n cynrychiolwyr.
-
Byddwn yn gweithredu ac yn hyrwyddo polisïau, gweithdrefnau a phrosesau cwyno priodol i amddiffyn pawb – gan gynnwys y gweithwyr llawrydd rydym yn ymwneud â nhw a’r myfyrwyr rydym yn eu haddysgu.
-
Byddwn yn parchu urddas ein gilydd, waeth beth fo safle a hynafedd ein rôl mewn unrhyw leoliad.
Pan roddir gwybod am ddigwyddiad
-
Rydyn ni’n deall ei bod hi’n anodd i unigolion sydd wedi dioddef bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu i godi llais.
-
Byddwn yn parchu cyfrinachedd lle bo modd ac yn ceisio gwneud y broses adrodd yn glir, yn syml ac yn hygyrch.
-
Pan fyddwn yn derbyn adroddiadau am fwlio, aflonyddu neu wahaniaethu, byddwn yn eu cymryd o ddifrif, yn eu trin yn sensitif, a’n blaenoriaeth gyntaf fydd diogelwch a lles yr achwynydd. Bydd hyn yn golygu sicrhau amddiffyniad digonol i achwynwyr a, phan ganfyddir bod bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu wedi digwydd, cymerir camau priodol yn erbyn y tramgwyddwyr. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw unigolion sydd wedi cwyno neu sydd wedi cymryd rhan yn ddidwyll mewn unrhyw ymchwiliad yn dioddef unrhyw fath o ddial neu erledigaeth o ganlyniad.
-
Pan fo unigolion yn perthyn i undeb llafur neu gymdeithas broffesiynol, byddwn yn eu hannog i ofyn am gyngor a chefnogaeth ganddynt.
-
Byddwn yn cadw rhestr o wasanaethau cymorth i’w defnyddio gan y rheiny sydd wedi dioddef aflonyddu, bwlio neu wahaniaethu.
-
Pan godir materion gyda ni a all fod o natur droseddol, byddwn yn cyfeirio’r unigolyn dan sylw at wasanaeth cymorth priodol (e.e. https://www.thehavens.org.uk).
Byddwn yn sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn rhan greiddiol o gamau cynnar gyrfaoedd yn y sector cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio, er mwyn sicrhau bod diwylliant gweithio mwy diogel a chynhwysol yn dod yn norm.