Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Yn dilyn galwad agored dewiswyd chwech o grewyr cerddoriaeth ar ddechrau eu gyrfa a chwe awdur ar ddechrau eu gyrfa i archwilio a chreu moment o opera gyda’i gilydd yn yr iaith Gymraeg – gyda chefnogaeth ac arweiniad gan y cyfarwyddwr cerdd Iwan Teifion Davies, yr awdur Gwyneth Glyn a Michael McCarthy o Music Theatre Wales.
Following an open call six early-career music-creators and six early-career writers were selected to explore and create a moment of opera together in the Welsh-language – with support and guidance from music director Iwan Teifion Davies, writer Gwyneth Glyn and Michael McCarthy of Music Theatre Wales.
Crewyr Cerddoriaeth - Music-Creators
Mae Andrew Cusworth yn gyfansoddwr Cymreig sy’n fwyaf adnabyddus am ei gerddoriaeth gorawl. Cafodd ei fagu yn Sir Benfro, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Rhydychen ar hyn o bryd.
Andrew Cusworth is a Welsh composer best known for his choral music. He was raised in Pembrokeshire, and currently lives and works in Oxford.
Mae Eady Crawford yn cyfansoddi ac yn perfformio, ac yn adnabyddus am greu sgôr cynyrchiadau fel A Midsummer Night’s Dream ac Imrie yn Theatr y Sherman. Ar hyn o bryd mae hi’n creu cerddoriaeth newydd gyda’i deuawd electro-roc soul gyda’r gitarydd Rhodri Foxhall, gan berfformio mewn digwyddiadau ledled Cymru.
Eady Crawford is a composer and performer, known for scoring productions like Sherman Theatre's A Midsummer Night's Dream and Imrie. She is currently creating new music in her electro-rock soul duo with guitarist Rhodri Foxhall, headlining events across Wales.
Mae gwaith Francesca Simmons yn archwilio’r amgylchedd gwledig a’i ddiwylliant a’i draddodiadau. Mae ei chynnyrch amlddisgyblaethol yn amrywio o ganeuon, fideo, sgôr graffeg, gosodwaith i ymarfer cymdeithasol.
Francesca Simmons’s work explores rural culture, traditions & environment. Her multidisciplinary output varies from song, video, graphic score, installation to social practice.
Mae Lowri Mair Jones yn gyfansoddwraig sy’n byw yng Nghaerdydd. Enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 gan ddod yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth Tlws Y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlethol 2024. Mae Lowri wedi ysgrifennu darnau i Sinfonia Cymru, Cerddorfa Symffoni’r Rhondda a Chôr Godre’r Garth.
Lowri Mair Jones is a composer based in Cardiff. Winner of Tlws y Cerddor at the 2023 National Eisteddfod and a runner up in Tlws y Cyfansoddwr at the 2024 National Eisteddfod, Lowri has written pieces for Sinfonia Cymru, Rhondda Symphony Orchestra and Côr Godre’r Garth.
Mae Nathan James Dearden wedi ennill gwobrau am gyfansoddi cerddoriaeth i gerddorfeydd a chyfryngau cymysg, ynghyd â bod yn arweinydd cerddorfa ac yn addysgwr. Enillodd Dlws y Cyfansoddwr 2024 yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae prosiectau diweddar ganddo yn cynnwys messages yng Ngŵyl y Tri Chôr gyda Cherddorfa Philharmonia, Three Motets yng Ngŵyl Llanandras gyda Chôr y Royal Holloway, a thaith genedlaethol the day following gydag Ensemble Cerddoriaeth Newydd UPROAR.
Nathan James Dearden is an award-winning Welsh composer of concert music and mixed media, conductor, and educator. The 2024 Tlws y Cyfansoddwr recipient at the Eisteddfod Genedlaethol, Nathan's recent projects include messages at Three Choirs Festival with Philharmonia Orchestra, Three Motets at Presteigne Festival with Choir of Royal Holloway, and a national tour of the day following with UPROAR New Music Ensemble.
Mae cerddoriaeth Sarah Lianne Lewis yn aml yn ymwneud â’r newid hinsawdd, y byd naturiol a chysylltiadau, a hynny o safbwynt benywaidd anabl. Roedd Sarah yn Gyfansoddwr Cysylltiedig â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC 2020-2024, ac mae ei gwaith diweddar L’Île des jamais trop tard (ynys lle nad yw hi byth yn rhy hwyr) wedi’i berfformio ar draws Ffrainc i filoedd o blant a’u teuluoedd, ac mae wedi cael croeso cynnes gan gynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd yn Ffrainc a’r Deyrnas Unedig.
Sarah Lianne Lewis’s music often encompasses themes of connection, climate change and the natural world, informed by a female disabled perspective. Sarah was Composer Affiliate with the BBC National Orchestra of Wales 2020-2024, and her recent work L’Île des jamais trop tard (The island of never too late) has been performed across France to thousands of children and their families, and warmly received by audiences and critics alike in France and the UK.
Awduron / Writers
Mae Anna Sherratt yn ddramodydd, cyfarwyddydd a dylunydd sain o arfordir creigiog Ceredigion. Mae hi wrth ei bodd yn adrodd straeon go iawn mewn ffyrdd hudolus, boed yn gymeriad sy’n cadarnhau eu hunaniaeth a chyfeillgarwch trwy sgwrs gyda robot, neu’n archwilio salwch tymor hir mewn byd ffantasi llawn môr-ladron a bwystfilod. Mae ei phrosiectau diweddar yn cynnwys ei drama Induction (Cwmni Ennyn), dylunio sain ar gyfer y ffilm fer Neon Masquerade (cynyrchiadau Afon Garde, wedi’i hariannu gan Chapter a’r BFI) a The Welsh Lxdies (Purple String Productions), a chyfarwyddo Ffermwyr, Pobl y Dref a Grocls (Cynyrchiadau Popty Ping a Chelfyddydau SPAN).
Anna Sherratt is a writer, director and sound designer from the rocky coasts of Ceredigion with a love for telling real stories in magical settings. Recent projects include her play Induction (Cwmni Ennyn), sound design for the upcoming short film Neon Masquerade (Afon Garde productions, funded by Chapter Arts and the BFI) and The Welsh Lxdies (Purple String Productions), and directing Farmers, Townies and Grockles (Popty Ping Productions and SPAN Arts).
Artist o Orllewin Cymru yw Beca Davies. Bu’n Artist Cyswllt gydag Opera Cenedlaethol Cymru 2023-24.
Beca Davies is an artist from West Wales. She was an Associate Artist at Welsh National Opera 2023-24.
Mae Gwenno Gwilym yn byw yn Nyffryn Ogwen ac yn mwynhau sgwennu yn Gymraeg a Saesneg (ac yn aml mewn cymysgedd o’r ddau). Mae ei cherddi wedi ymddangos yn Poetry Wales ac yn Ffosfforws, ac roedd yn Fardd y Mis ar BBC Radio Cymru yn gynharach eleni. Bydd ei nofel gyntaf, V + Fo, yn cael ei chyhoeddi ym mis Tachwedd gan Gwasg y Bwthyn.
Gwenno Gwilym lives in Dyffryn Ogwen and enjoys writing in both Cymraeg and English (and often in a combination of both). Her poems have been published in Poetry Wales and Ffosfforws, and she was Bardd y Mis on BBC Radio Cymru earlier this year. Her first novel, V + Fo, will be published by Gwasg y Bwthyn in November.
Mae Kayley Roberts yn nofelydd, bardd, a therapydd sy’n gweithio yng Nghaernarfon. Mae eu gwaith, yn greadigol ac yn therapiwtig, yn aml yn archwilio hunaniaethau LGBTQIA+, niwrowahaniaeth, a thrawma cymhleth, gan roi modd i’r gair ysgrifenedig a llafar arwain at hunansylweddoli.
Kayley Roberts is a novelist, poet, and therapist, working in Caernarfon. Their work, both creatively and therapeutically, often explores LGBTQIA+ identities, neurodivergence, and complex trauma, allowing self-actualisation to emerge through both the written and spoken word.
Mae Siwan Llynor yn gyfarwyddwr, yn ymarferydd creadigol ac yn berfformiwr sy’n arbenigo mewn gwaith ymgysylltu creadigol. Mae hi wedi arwain ar nifer o brosiectau aml-lwyfan arloesol gyda chymunedau.
Siwan Llynor is a director, creative practitioner and performer specialising in creative engagement. She has led on many innovative multi-platform projects within communities.
Yn llawn dawn theatrig, mae Teifi Emerald yn rhannu cerddoriaeth hip-hop a soul doniol, anfoesgar, dwyieithog, a phop-geltaidd ysgafn wedi’i ysbrydoli gan natur, gan ganu am gyrff, bod yn fam, natur, cnawdolrwydd, a Morforynion Cymru. Weithiau bydd ei chriw o’r TeifiVerse yn ymuno â hi ar y llwyfan – pedair o rapwragedd/cantoresau/DJs amlieithog.
Mae ei phenillion natur ar gyfer Unwaith Rownd yr Haul yn cynnwys cân/rap yn Gymraeg am blanhigion brodorol Cymru, un ar gyfer pob mis o’r flwyddyn. Ar hyn o bryd mae hi wrthi’n cynhyrchu ei halbwm cyntaf.
Teifi Emerald shares funny, rude, bi-lingual hip-hop and soul, and nature-inspired ethereal celtic-pop, with theatrical flair, singing about bodies, motherhood, nature, sensuality, and Welsh-Lady Mermaids. She is sometimes joined onstage by her crew from the TeifiVerse – four multi-lingual female rappers/vocalists/DJs.
Her nature verses for Unwaith Rownd yr Haul (Once Round the Sun) feature Welsh language song/rap about native Welsh plants, one for each month of the year. She is currently producing her debut album.
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network