top of page

DYDDIAD CAU NEWYDD AR GYFER AWDURON, YSGRIFENWYR A BEIRDD 

- Dydd Llun 29 Gorffennaf

 

Dyma alw ar awduron a chrewyr cerddoriaeth sydd ar ddechrau eu gyrfa: ymunwch â ni ar lwybr datblygu sydd â thâl i ysgrifennu opera Gymraeg.

Bydd 6 o grewyr cerddoriaeth sydd ar ddechrau eu gyrfa yn cael eu paru â 6 o awduron/beirdd sydd hefyd ar ddechrau eu gyrfa a bydd y parau yn mynd ati i archwilio a chreu moment o opera gyda’i gilydd yn Gymraeg – a hynny gyda chefnogaeth ac arweiniad y cyfarwyddwr cerdd Iwan Teifion Davies, yr awdures Gwyneth Glyn a Michael McCarthy o Music Theatre Wales.

Mae’r prosiect yn bosibl oherwydd cefnogaeth hynod hael gan amrywiaeth o gyllidwyr, gan gynnwys Sefydliad Jerwood, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad PRS. 

BETH YW'R PROBLEM?

★ Dylai opera a theatr gerdd newydd fod yn ffynnu yn Gymraeg – ond dydyn nhw ddim.

★ Pam?

★ Ble mae cyfansoddwyr ac awduron operâu newydd drwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae Tŷ Cerdd a Music Theatre Wales wedi dod at ei gilydd i roi hwb i’r drafodaeth a’r ffurf gelfyddyd hon. Rydym yn cydweithio ar Tuag Opera, sef llwybr creadigol i artistiaid ddatblygu eu sgiliau.

BETH YW'R RHAGLEN?

Mae Tuag Opera yn llwybr â thâl ar gyfer 12 o artistiaid sydd ar ddechrau eu gyrfa (6 chrëwr cerddoriaeth,
6 awdur). Bydd pob artist a ddewisir yn derbyn £1000 yr un am gymryd rhan – cyfuniad o weithdai personol a chyswllt ar-lein dros gyfnod o 5 mis, yn gweithio ochr yn ochr â chantorion a phianydd.

Ynghyd â chefnogi artistiaid i ddatblygu eu sgiliau, byddwn yn gofyn:

  • beth yw opera newydd?

  • sut gall fod yn rhan o’ Gymru sydd ohoni?

  • a yw gweithio yn Gymraeg yn gallu bod yn rhan o ddatblygu’r ffurf gelfyddydol a chreu traddodiad byw yng Nghymru?

Os ydych yn ymgeisio, mae’n rhaid i chi fod ar gael ar y dyddiadau canlynol:

  • Nos Fercher 9 Hydref, 19:30, Theatr y Sherman (Caerdydd) – mynychu Bwystfilod Aflan (opera gan Conor Mitchell a Jac Ifan Moore; cyd-gynhyrchiad Music Theatre Wales gyda Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth)

  • Dydd Iau 10 Hydref, 10:00-17:00, Caerdydd (lleoliad i’w gadarnhau)

  • Dydd Sadwrn 9 Tachwedd, 10:00-17:00, y Nyth, Bangor (lleoliad i’w gadarnhau)

  • Dydd Sadwrn 18 Ionawr, 10:00-17:00, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth

  • Dydd Sul 2 Mawrth, 10:30-17:30, Stiwdio Tŷ Cerdd, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd

  • Dydd Sadwrn 12 Ebrill, 10:00-17:00, Stiwdio Tŷ Cerdd, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd (sesiwn recordio/rhannu terfynnol)

 

CYFRANOGWYR

Awduron/ysgrifenwyr/beirdd

Genre  Rydym am fod mor agored â phosibl i awduron o amrywiaeth o genres. Byddem wrth ein bodd yn clywed gan feirdd, dramodwyr, libretwyr, storïwyr, cyfansoddwyr caneuon, rapwyr… Os ydych chi’n teimlo’n angerddol dros greu opera newydd yn yr iaith Gymraeg, gwnewch gais!

Ar ddechrau gyrfa Yn gyffredinol mae hyn yn golygu y bydd ymgeiswyr cymwys wedi cael eu gwaith wedi’i gyhoeddi mewn cyd-destun proffesiynol ar o leiaf un achlysur. Sylwer: ni all y llwybr hwn gefnogi unrhyw un sy’n astudio ar gyfer cymhwyster israddedig neu ôl-raddedig ar hyn o bryd.

Awduron o Gymru Rydych chi’n gymwys os ydych chi’n ysgrifennu’n greadigol ac rydych chi wedi byw yng Nghymru ers o leiaf blwyddyn, neu wedi cael eich geni yma. Croesewir ceisiadau gan awduron o bob rhan o Gymru a thelir costau teithio artistiaid (o fewn Cymru).

Amrywiaeth Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli / sydd wedi’u hanwybyddu neu eu gwahardd o’r gymuned gelfyddydol; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

Y Gymraeg  Bydd angen i’r awduron sy’n cymryd rhan yn y llwybr fod yn rhugl ac yn gyfforddus yn ysgrifennu yn y Gymraeg. Os nad ydych yn siŵr cysylltwch â ni.

 

OS OES GENNYCH DDIDDORDEB, OND BOD GENNYCH GWESTIYNAU...

Gallwn sgwrsio â chi dros y ffôn neu Zoom. Anfonwch neges ebost atom i drefnu galwad. Rydyn ni eisiau cael gwared ar gynifer o rwystrau ag y gallwn – felly os oes unrhyw beth yr hoffech siarad â ni amdano, rhowch wybod i ni a byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i ateb.

 

I YMGEISIO...

ewch ati i lanlwytho’r wybodaeth ganlynol i’n PORTH:

1. Manylion personol: enw, cyfeiriad ebost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18 oed

2. Eich ymarfer:  Disgrifiwch eich ymarfer; beth ydych chi wedi bod yn fwyaf balch ohono? (Dim mwy na 200 gair)

3. Pam hoffech chi fod yn rhan o’r llwybr hwn? Sut ydych chi’n credu y bydd y llwybr hwn o fudd i’ch ymarfer? Dywedwch wrthym sut y gall y llwybr adeiladu ar eich profiad blaenorol. Beth ydych chi’n gobeithio y bydd cymryd rhan yn ei newid a’i ddatblygu i chi? Dywedwch wrthym am eich profiad mewn gwaith electronig, a sut y gallech fynd ati i weithio gydag electroneg a ffidil byw. (Dim mwy na 750 gair)

4. A oes gennych unrhyw ofynion o ran mynediad? Dywedwch wrthym os oes unrhyw gefnogaeth neu unrhyw amodau sydd eu hangen arnoch i’ch galluogi i gymryd rhan yn y llwybr.

5. Enghreifftiau o’ch gwaith: atodwch 2 ddolen neu atodiad i’ch cerddoriaeth (anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, rhowch wybod i ni.)

Rydym yn croesawu ceisiadau ar fideo a sain hefyd. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2, 3 a 4 uchod (dim hirach na 8 munud o hyd), a lanlwytho’r ddolen i’ch recordiad, gan ychwanegu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 a 5 i’r ffurflen lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, ebostiwch ni i gael help.

 

AMSERLEN A'R BROSES

Dyddiad cau newydd ar gyfer ceisiadau oddi wrth ysgrifenwyr yw 1200 ganol dydd ar Dydd Llun 29 Gorffennaf. (Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyfansoddwyr wedi'i basio.)

Panel: Michael McCarthy, Iwan Teifion Davies, Gwyneth Glyn, a Deborah Keyser (Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd)

Byddwn yn rhoi’r gwybod ein penderfyniad i chi erbyn yr wythnos yn dechrau 5 Awst

 

Iwan Teifion Davies.jpg

Iwan Davies yw Cyfarwyddwr Artistig Musicfest Aberystwyth, un o brif wyliau cerddorol Cymru. Yn y Salzburger Landestheater bu’n arwain repertoire eang yn ymestyn o Rossini i Philip Glass. I Ŵyl Ryngwladol Buxton, lle mae’n Bennaeth Cerdd, mae wedi arwain Donizetti, Bizet ac Ivor Novello. Gydag English Touring Opera bu’n arwain La Bohème a’r Ceiliog Aur.

 

Mae’n gefnogwr brwd o gerddoriaeth Cymraeg, ac wedi comisiynu a pherfformio gweithiau newydd wrth nifer o gyfansoddwyr. Fe oedd arweinydd operâu Gareth Glyn, Wythnos yng Nghymru Fydd ac Un Nos Ola Leuad, yr ail gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Gwyneth G_edited.jpg

Mae Gwyneth Glyn yn fardd, awdur a chyfansoddwraig sydd wedi ysgrifennu'n helaeth ar gyfer y theatr a'r teledu ers dros ugain mlynedd. Gweithiodd â Music Theatre Wales i greu cynhyrchiad Cymraeg o Histoire du Soldat Stravinsky, a hi oedd awdur libretto Y Tŵr - addasiad o ddrama Gwenlyn Parry a gynhyrchwyd ar y cŷd rhwng Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru yn 2017.

 

Bu hi'n fardd Plant Cymru, cyhoeddwyd ei cherddi mewn nifer o gyfrolau ac mae hi'n aelod o dîm awduron Pobol y Cwm. Mae ganddi brofiad helaeth o fentora awduron, ac yn edrych ymlaen i fod yn rhan o'r fenter gyffrous yma.

Music Theatre Wales.png

Mae Music Theatre Wales (MTW) yn bodoli er mwyn anadlu bywyd newydd i fyd yr opera, gan ei gyflwyno fel modd o adrodd stori trwy gerddoriaeth a gweithio i adfywio opera fel gweithgaredd llawn mynegiant sy’n hygyrch i bawb. Mae’r cwmni yn meithrin artistiaid fydd yn creu opera’r dyfodol ac yn cyflwyno opera mewn dulliau dychmygus a fydd yn helpu i newid y canfyddiad traddodiadol o’r hyn ydyw opera a beth y gall fod. Maent yn gofyn: Beth yw opera? Pwy sy’n ei greu? ac Ar gyfer pwy y mae e?

TO logo strip complete_edited.png
bottom of page