Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Delweddau Rhondda Cynon Taf
Tlws y Cerddor ar ei newydd wedd ar gyfer Eisteddfod RCT 2024
Galwad agored i gyfansoddwyr a chrëwyr cerddoriaeth
Mae Tlws y Cyfansoddwr yn cynnig cyfle cyflogedig i gefnogi taith gyrfaol cyfansoddwyr a chrëwyr cerddoriaeth i gyfansoddi ar gyfer ensemble siambr – gan ddefnyddio delweddau o Rhondda, Cynon Taf fel ysbrydoliaeth ar gyfer cyfansoddiadau newydd.
Bydd y tri gwaith gorffennedig yn cael ei berfformio yn y Pafiliwn mewn seremoni arbennig yn ystod wythnos yr Eisteddfod ddechrau Awst 2024 – gyda delweddau o ddewis y cyfansoddwr yn cael eu taflunio ar sgrin. Cyhoeddir enw’r cyfansoddwr buddugol ar ddiwedd y seremoni a chyflwynir ‘Tlws y Cyfansoddwr’ a gwobr ariannol o £750.
Mae hon yn gystaldeuaeth ar y cyd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, Tŷ Cerdd a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru mewn cydweithrediad a’r cyfansoddwr-mentor, John Rea a phedwar cerddor o Sinfonia Cymru.
Bydd tri chyfansoddwr dethol yn derbyn ffi o £500 yr un yn ogystal â gwahoddiad i weithdai wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru a chyfranir costau teithio i’r gweithdai (Caerdydd) a pherfformiad (Pontypridd).
Bydd yr artistiaid yn derbyn y cyfle i’w gwaith gorffenedig gael ei gyhoeddi gan Tŷ Cerdd.
Mae offeryniaeth yr ensemble fel a ganlyn:
ffidil, clarinet, soddgrwth a phiano
Rhaid i bob ymgeisydd fod ar gael ar gyfer y gweithdai/perfformiadau canlynol:
-
Dydd Gwener 2 Chwefror 2024 – gweithdy cychwynnol (Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd)
-
Dydd Gwener 12 Ebrill – gweithdy #2 (Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd)
-
Dydd Gwener 7 Mehefin – gweithdy #3 (Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd)
-
gweithdy/ymarfer/perfformiad yn ystod wythnos yr Eisteddfod (dyddiad i’w gadarnhau – rhwng dydd Llun 5 a dydd Sadwrn 10 Awst ym Mhontypridd)
_______________________
Cyfranogwyr
-
Genre Er bod y cyfle hwn ar gyfer y rhai sy'n creu cerddoriaeth gan ddefnyddio hen nodiant, rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid sy'n gweithio mewn unrhyw arddull gerddorol.
-
Cyfansoddwyr Cymraeg Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr a chrëwyr cerddoriaeth ar draws Cymru. Os ydych yn gerddorol ac yn ateb gofynion y rheolau isod, rydych yn gymwys i gystadlu. Mae cystadlaethau ac ysgoloriaethau’r Eisteddfod yn agored i unrhyw un:
-
a anwyd yng Nghymru, neu
-
y ganwyd un o'u rhieni yng Nghymru, neu
-
sy’n siarad neu ysgrifennu Cymraeg,
-
neu sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru am flwyddyn cyn 31 Awst 2024.
-
-
Amrywiaeth Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy'n cael eu tangynrychioli / sydd yn cael eu heithrio o'r gymuned gelfyddydol; rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
-
Yr Iaith Gymraeg Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn ddwyieithog, gwahoddir chi i gyfranogi ble bynnag ydych chi ar y daith i ddysgu Cymraeg gyda chyfranogwyr yn dangos ymrwymiad i'r iaith a gwerthfawrogiad o'i phwysigrwydd i'r prosiect.
-
Gweithio gyda delweddau Gan gynnwys ffotograffau o dirwedd ôl-ddiwydiannol, i bensaernïaeth, i bobl – bydd yr weledigaeth yma yn nwylo’r cyfranogwyr. Fel rhan o’r cais, rhowch eglurhad sut gallai cyfrwng weledol ychwanegu at y cyfansoddiad.
Diddordeb ac yn awyddus holi a darganfod mwy?
…gallwn sgwrsio â chi yn uniongyrchol dros y ffôn neu Zoom. E-bostiwch i drefnu cyfarfod. Rydyn ni eisiau cynnig arweiniaid a bod yno i’ch cefnogi – felly, rhowch wybod i ni a byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i ateb.
_______________________
I ymgeisio…
Cyflwynwch y wybodaeth ganlynol i'r porth
-
Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18
-
Dywedwch wrthym am eich gwaith: Dywedwch wrthym am eich profiadau fel crëwr cerddoriaeth / cyfansoddwr a'r hyn yr ydych wedi bod fwyaf balch ohono. (Uchafswm 200 gair)
-
Pam hoffech chi fod yn rhan o'r cynllun hwn? Sut ydych chi'n meddwl y byddai’r cynllun o fudd i chi? Dywedwch wrthym sut mae'n adeiladu ar eich profiad blaenorol a beth rydych chi'n gobeithio ei ddatblygu trwy gyfranogi? (Uchafswm 250 gair)
-
Pam fod yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn bwysig i chi fel crëwr cerddoriaeth / cyfansoddwr? Sut gallai delweddaeth o’r Rhondda ysbrydoli eich gwaith newydd? Dywedwch wrthym am eich perthynas â Chymru a’i hiaith, ac elfennau o dirwedd a diwylliant y Rhondda sydd o ddiddordeb i chi. (Nid oes angen i chi atodi delweddau i'ch cais.)
-
A oes gennych unrhyw angenion? Dywedwch wrthym os oes unrhyw gymorth neu unrhyw amodau sydd eu hangen arnoch i'ch galluogi i gymryd rhan yn y cynllun?
-
Enghreifftiau o'ch gwaith: atodwch 2 ddolen neu atodiad i'ch cerddoriaeth a'r 2 sgôr cyfatebol
(DS: ar gyfer y sain anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, rhowch wybod i ni.)
Croesewir ceisiadau fideo a sain hefyd. Cofnodwch eich atebion i gwestiynau 2-5 uchod (hyd at 5 munud), a lanlwythwch ddolen i'ch recordiad, gan ychwanegu'r wybodaeth y gofynnwyd amdanynt yng nghwestiynau 1 a 6 at y ffurflen uwchlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i'ch fideo, e-bostiwch am help.
_______________________
Amserlen a phroses
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1200 canol dydd, dydd Gwener 8 Rhagfyr
-
Bydd y panel (John Rea; Elen Ellis o’r Eisteddfod Genedlaethol; Deborah Keyser a Steph Power o Tŷ Cerdd) yn cyfarfod ddydd Mawrth 12 Rhagfyr
-
Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r canlyniad erbyn dydd Llun 18 Rhagfyr
_______________________
Mae John Rea yn gyfansoddwr o Gymru ac mae ei yrfa wedi ymestyn dross awl cyfrwng gan gynnwys cyngherddau, bandiau roc, gosodiadau a mwy. Yn ddiweddar, mae wedi dod ag ymgysylltiad cynyddol â gwaith cysyniadol, ac mae’n cael ei ysbrydoli gan ddelweddaeth, archifau a hanes cymdeithasol, fel y gwlir yn ei gyfanwaith Atgyfodi (ar gyfer Amgueddfa Werin Cymru yn Sian Ffagan).
Mae Sinfonia Cymru yn gerddorfa sy’n ymroddedig i ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd cerddorion proffesiynol dawnus o dan 30 oed.
Pwrpas Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru ydy hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth cyfansoddwyr o darddiad Cymreig a chyfansoddwyr o unrhyw genedligrwydd sy’n byw yng Nghymru.