Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Menter Celfyddydau ac Iechyd yn comisiynu carfan o artistiaid i wneud gosodiadau cerddoriaeth a sain bwrpasol ar gyfer y capel aml-ffydd yn Ysbyty Prifysgol Grange yn Llanfrechfa. Ariannwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mewn cydweithrediad â Studio Response.
TeiFi
Glaw – Shoda
Ffoto: Suhmayah Banda
Chameleon yw TeiFi, sy'n cynhyrchu a pherfformio ‘soul-folk’, rap a gair llafar yn Saesneg a Chymraeg, am natur, delwedd y corff, mamolaeth, Cymru, gwladychiaeth, iaith, marwolaeth. Rhyddhaodd ei sengl gyntaf ‘Precipice’ yn 2019, a’i EP cyntaf ‘Then We Came Into a Myth’ yn 2020. Cafodd ei henwebu am yr Actores Orau gan Theatre Critics Wales Awards am ei sioe un-fenyw 'WiLD'.
Gwrandewch ar 'Glaw – Shoda'...
Glaw – Shoda – nodyn cyfansoddwr
Mae’r rhan gyntaf o’r darn yn cynnwys galwad i’r glaw, “Rhowch y glaw i fi”, y glaw fel ffynhonnell meddalwch, newid a dŵr yn golchi ein teimladau, gan ein llacio a’n iachau.
Mae’r ail gân yn cynnwys llefaru/rapio yn y Gymraeg, gan ymdrin â’r teimladau tywyll a brwydrau iechyd meddwl sy’n dod liw nos; glaw sy’n cysylltu’r nefoedd a’r ddaear; y teimlad o ddal gafael drwy noson dywyll yr enaid, ymwybyddiaeth sy’n ehangu ac yn ymdoddi – hyn i gyd yn arwain at ysfa i fyw bywyd yn fwy yn y corff, i beidio â rhuthro i’r nefoedd ac yn hytrach, fwynhau mân bleserau bywyd.
Mae’r ail ran o’r darn – Shoda – yn cynnwys cerdd yn y Fengaleg gan Modina Ferdous. Ystyr Shoda yw "yr oglau ar ôl y glaw" – gair nad yw’n bodoli yn y Gymraeg na’r Saesneg. Mae geiriau Cymraeg y gân sy’n dilyn wedi’u seilio ar ei cherdd a theimladau o adfywiad, ffresni a newid yn sgil brwydr. Dw i’n dychmygu bywyd yr ardd, blodau’n ffrwydro, diferion glaw, pridd ac awyr iach.
Mae’r darn hwn yn dod â dwy agwedd ddiwylliannol wahanol at y glaw – Cymreig a Bangladeshi – mae’r ddwy genedl wedi’i siapio gan ddŵr. Bob blwyddyn ym Mangladesh ceir dathliadau gyda seigiau traddodiadol yn dathlu’r glaw’n dychwelyd. Ferdous (a ymfudodd o Fangladesh i Gasnewydd) yn dilyn traddodiad mawr beirdd Bangladesh yn ysgrifennu am y glaw.
Braint i mi yw cynnwys ychydig o Fengaleg yn y darn hwn - iaith sydd wedi wynebu trais a difodiant a brwydr i gadw’r iaith yn fyw. Mae’r Fengaleg bellach yn iaith sy’n cael ei siarad gan lawer o bobl yn ne Cymru.
Fel rhan o wneud y darn hwn, bues i’n gweithio gyda Noddfa, y ganolfan i ffoaduriaid yng Nghasnewydd. Dyma sut cwrddais â Ferdous, gwirfoddolwraig yn y ganolfan, a chlywed ei barddoniaeth. Dewis personol oedd gweithio gyda Noddfa – ffoaduriaid Iddewig i dde Cymru oedd mam-gu a thad-cu ac roedd yn teimlo fel gwneud y cysylltiadau iawn i mi: cysylltiadau drwy amser a lle â’m cyndeidiau a hefyd cysylltiadau â theuluoedd yn cyrraedd Cymru yn y dyfodol.
Fe wnaethon ni ddal i fyny â TeiFi i ddarganfod mwy am ei phrosesau creadigol a'i hysbrydoliaeth, ac am gysylltu â chymunedau lleol.