Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Tapestri
archif gerdd fyw i Gymru
Pleser mawr i TÅ· Cerdd – mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru – yw lansio Tapestri, menter newydd a ariennir drwy gynllun Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Archif gerdd fyw fydd Tapestri, dathliad cerddorol ar draws y genedl o bobl, cymunedau ac ieithoedd Cymru. Bydd cyllid Cysylltu a Ffynnu yn cefnogi datblygu pedwar llinyn cyntaf Tapestri a fydd rhyngddynt yn dwyn at ei gilydd ugeiniau o artistiaid a sefydliadau amrywiol:
perisgop: cynhyrchiad theatr gerdd digidol o dan arweiniad yr anabl sy’n gosod profiadau go iawn ar ganol y sylwebaeth hon ynglÅ·n â bywyd heb olwg yng Nghymru. Bydd y cyfansoddwr Gareth Churchill, yr awdur Kaite O’Reilly a’r fideograffydd Jake Sawyers yn arwain tîm artistig, pob un yn anabl. Wedi’i greu mewn cydweithrediad â Chynyrchiadau UCAN a phobl sydd â nam ar eu golwg o bob cwr o Gymru.
bwthyn sonig: yn datblygu ensemble cerdd arbrofol gydag oedolion ag anableddau dysgu (gogledd a de Cymru ac ar-lein), mewn partneriaeth â Chanolfan Gerdd William Mathias, Touch Trust a’r artistiaid arweiniol Jo Thomas, Teifi Emerald, Katherine Betteridge ac Elin Taylor. Bydd Sonic Bothy, ensemble arloesol a leolir yn yr Alban, yn darparu mentora a chyngor.
​
affricerdd: 10 comisiwn gan artistiaid Cymreig o dras Affricanaidd (gan gynnwys 5 gwaith gyda choreograffydd), mewn partneriaeth â Phanel Cynghori Is-Sahara a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
polskerdd: ymgysylltu creadigol a gwledda cymunedol gyda chymunedau Cymreig a Phwylaidd Aberystwyth a Phenparcau, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Fforwm Cymuned Penparcau.
Bydd y pedwar prif bartner yn y prosiect yn darparu cymorth trawstoriadol, ymgysylltiad, cyfathrebu a mewnbwn creadigol i’r artistiaid a sefydliadau sy’n cyflwyno’r pedwar llinyn.
Yn ôl Deborah Keyser, cyfarwyddwr TÅ· Cerdd: “Rydyn ni’n ymfalchïo yn nhreftadaeth cerddoriaeth Cymru, ond pan fyddwn yn edrych ar ein harchif ni yn NhÅ· Cerdd ac mewn llawer o archifau ar draws Cymru, rydyn ni’n cael ein taro gan y lleisiau sydd heb eu cynrychioli llawn cymaint â’r gwaith bendigedig y maent yn ei ddathlu. Nod llinynnau Tapestri yw galluogi artistiaid a chymunedau i ddod at ei gilydd i greu archif fyw o leisiau sydd ddim yn cael eu clywed mor aml. Rydyn ni’n gweithio i hybu ein slogan, “os ydych chi’n gwneud cerddoriaeth yng Nghymru, cerddoriaeth Gymreig yw hi” ac mae Tapestri yn rhan o’r gwaith hwnnw.
“Rydyn ni’n arbennig o ddiolchgar i’n prif bartneriaid prosiect – Celfyddydau Anabledd Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru – ac i nodi lansiad Tapestri, rydyn ni’n rhoi Archif TÅ· Cerdd yn swyddogol i’r Llyfrgell Genedlaethol; bydd hyn yn galluogi mwy o bobl i gael mynediad i’r archif ac edrychwn ymlaen at ychwanegu lleisiau sydd heb eu clywed at y casgliad datblygol hwnnw.”
Mae gweithgarwch ar draws llinynnau Tapestri yn dechrau ym mis Mai, gyda galwadau am artistiaid yn dilyn yn fuan ar ôl hynny ar gyfer y llinynnau perthnasol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Shakira.mahabir@tycerdd.org