top of page

Galwad i greadigwyr 

Opera fel actifiaeth! 

Tŷ Cerdd a Music Theatre Wales yn cyflwyno gweithdai AM DDIM mewn sgiliau Opera Celfyddyd Stryd – Bangor a Chaerdydd, Mehefin 2023

Bydd Music Theatre Wales yn cyflwyno math newydd o greu opera yng Nghymru – Operâu Celfyddyd Stryd. Ffrwyth dychymyg Dumbworld, y cwmni celfyddydau cyhoeddus o Iwerddon, mewn cydweithrediad â’r Irish National Opera yw hyn, sef opera ar ffurf actifiaeth. Bydd The Scorched Earth Trilogy yn cael ei pherfformio ym Mangor, Hwlffordd a Chaerdydd ym mis Mai a Mehefin.

 

Ochr yn ochr â’r daith, mae Music Theatre Wales yn partneru â menter datblygu artistiaid CoDI gan Tŷ Cerdd i gynnig dau ddiwrnod datblygu sgiliau ar gyfer artistiaid a phobl greadigol o Gymru:

  • Caerdydd (Chapter), Dydd Sadwrn 17 Mehefin

  • Bangor (Pontio), Dydd Llun 19  Mehefin

 

Y gweithdai

Os oes gennych bwnc llosg yr hoffech ei godi, stori yr hoffech ei harchwilio neu ei dathlu, syniad a allai ddod yn fyw drwy ddelwedd, testun a cherddoriaeth mewn lleoliad awyr agored, yna efallai mai dyma’r union beth i chi. Ymunwch â chyd-sefydlwyr Dumbworld, y cyfarwyddwr John McIlduff a’r cyfansoddwr Brian Irvine, am ddiwrnod o hyfforddiant a mewnwelediad ar Operâu Celfyddyd Stryd.

 

Mae hwn yn argoeli i fod yn ddiwrnod addysgiadol a chydweithredol o weithdai ar gyfer artistiaid proffesiynol mewn unrhyw faes yn y diwydiant celfyddydau. Cewch gyfle i rannu eich syniad/au ar gyfer eich opera celfyddyd stryd chi eich hun, a gweld rhai o’ch syniadau’n dod yn fyw y diwrnod hwnnw. Bydd John a Brian yn arwain trafodaethau ar bynciau megis y libretto a’r gerddoriaeth, i saethu gyda sgrin werdd ac ôl-gynhyrchu, a byddant yn cynnig profiadau creadigol ymarferol.

 

Yn dilyn y gweithdai, hoffai Music Theatre Wales gomisiynu dwy Opera Celfyddyd Stryd newydd gan artistiaid o Gymru, felly dyma eich cyfle chi i ddysgu sut mae mynd ati i ddod ag opera celfyddyd stryd yn fyw.

 

Fel gydag unrhyw fath o opera, bydd cydweithredu’n allweddol, ac felly mae MTW yn chwilio am artistiaid, cyfansoddwyr, ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr, cerddorion (o bob genre), animeiddwyr, gwneuthurwyr fideo, artistiaid gweledol, artistiaid stryd a graffiti, darlunwyr, ac unrhyw un a chanddynt ddiddordeb mewn dysgu mwy am greu Opera Celfyddyd Stryd newydd gyda’i gilydd.

 

Sut i ymgeisio

Lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n porth

  1. Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, a chadarnhad eich bod dros 18

  2. Dywedwch pa leoliad hoffech chi fynychu? Caerdydd neu Bangor

  3. Soniwch am eich gwaith a pham hoffech gymryd rhan yn y gweithdy? Beth yr hoffech ei gyflawni drwy gymryd rhan?

  4. Oes angen bwrsari ar gyfer trafnidiaeth? Os felly, o ble yr ydych yn teithio?

  5. Enghreifftiau o’ch gwaith: anfonwch ddwy ddolen neu atodiadau i’ch gwaith creadigol (sylwer: byddem yn ddiolchgar petaech yn anfon dolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; cofiwch gysylltu os oes angen help arnoch i greu dolenni.)

 

Rydym yn croesawu ceisiadau fideo hefyd. Recordiwch eich fideo yn ateb cwestiynau 3 uchod (hyd at 3 munud o hyd), a lanlwythwch ddolen i’ch fideo, gan roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1, 2, 4 a 5 ar y ffurflen i’w lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, mae pob croeso i chi yrru e-bost atom i gael help.

 

Amserlen

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 1000 ar Ddydd Gwener 26 Mai

Mynediad

Rydyn ni am ddileu cynifer o rwystrau ag y gallwn – os hoffech siarad â ni am unrhyw beth, cysylltwch â Tŷ Cerdd neu Music Theatre Wales a byddwn yn fwy na pharod i geisio helpu i ddod o hyd i ateb.

 

Gwybodaeth am arweinwyr y gweithdai a phartneriaid

 

John McIlduff

Mae John yn libretydd, ysgrifennwr, cyfarwyddwr llwyfan, cynhyrchydd a gwneuthurwr ffilmiau, ac mae ei waith yn cynnwys meysydd opera, teledu, ffilm, theatr, fideos cerddoriaeth, hysbysebion, gosodiadau a hyd yn oed geiriau ambell gân.

 

Ac yntau wedi graddio o L’École de Theatre Jacques Lecoq ym Mharis, yn enillydd gwobr Edinburgh Fringe First Winner, ac wedi’i enwebu ar gyfer y Total Theatre Innovation Award, mae gan John ddiddordeb mewn archwilio sut y gall ymarfer celfyddyd groestorri, cyfuno, esblygu, a democrateiddio.

 

Yn fwyaf diweddar, mae ei waith wedi cyfuno perfformiad analog traddodiadol â thechnolegau digidol i drawsnewid y modd y caiff opera ei chyflwyno a’i phrofi – gan fynd â’r ffurf hon ar gelfyddyd allan o’r tŷ opera ac ar y stryd, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd, ifancach.

 

Brian Irvine

Mae byd cerddorol unigryw Brian, a aned yn Belfast, yn cyfuno’r cyfarwydd a’r anghyfarwydd, y rhydd a’r caeth, yr addysgiedig a’r dihyfforddiant. Yr hyn sy’n ei sbarduno yw ei awydd cryf i gysylltu, tarfu, ailddyfeisio, ac ailddychmygu pob agwedd ar fywyd, pobl, cymdeithas, celf a dealltwriaeth mewn unrhyw a phob modd posibl. Mae ei gerddoriaeth yn gyfuniad personol o arddull punk, waith byrfyfyr a’r clasurol cyfoes.

 

Ac yntau wedi ei enwebu ar gyfer pump o wobrau British Composer (BASCAau) ac ennill dwy ohonynt, mae allgynnyrch hynod eang Brian yn cynnwys operâu, oratorios ar raddfa fawr, gweithiau cerddorfaol, ensemble, siambr, unawdol a dawns, ynghyd â sgoriau ffilm a gosodiadau.

 

Mae Dumbworld yn gwmni cynhyrchu amlddisgyblaethol, creadigol sy’n gweithio ar draws perfformiadau, digidol, gosodiadau a ffilm.

 

Operâu Celfyddyd Stryd Dumbworld:

 

Music Theatre Wales

Ers 1988, mae MTW wedi bod yn rym dros newid a datblygu opera yn y DU. Maent yn credu’n angerddol y gall opera sydd newydd gael ei chreu ddarparu rhai o’r profiadau mwyaf cyffrous a phwerus, ac maent bob amser wedi bod yn awyddus i rannu hyn mor eang â phosib.

Street Art Opera logos.png
bottom of page