top of page

R S Hughes 1855-93

Yn gyfansoddwr caneuon Cymreig blaenllaw iawn tua diwedd y 19eg, pianydd oedd Richard Samuel Hughes i ddechrau – enillodd y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth eisteddfodol pan nad oedd ond yn ddeg oed er gwaetha’r ffaith bod dau o’i fysedd wedi’u rhwymo â’i gilydd ar ôl cael ei frathu gan fwnci y diwrnod cynt. Cyfansoddodd ei gân gyntaf, Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi? yn ddeunaw oed yn unig, un o gyhoeddiadau cyntaf cerddorol Hughes a’i Fab. Aeth yn ei flaen o lwyddiant i lwyddiant, gyda gwobrau ar gyfer Y Dymestl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 1880 yn ogystal ag Arafa Don a enillodd glod hefyd yn yr un digwyddiad. Gallwch glywed Elen Fwyn yn cael ei chanu yma gan David Lloyd i gyfeiliant Meirion Williams.

Disgrifir R. S. gan David Jenkins yn ei lith coffa iddo yn Y Cerddor fel hyn: “Nid oes neb wedi cyfoethogi cerddoriaeth ein gwlad yn fwy nag R. S. yn ystod y chwarter canrif ddiweddaf [sic]; yn wir, efe yw ein “Schubert Cymreig.””

ENGLISH

A very prominent composer of Welsh song toward the end of the 19th Century, Richard Samuel Hughes was firstly a pianist – he won first prize in an Eisteddfod competition when just ten years old despite two of his fingers having been bandaged together after being bitten by a monkey the previous day. He composed his first song, Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi? at the age of just eighteen, which was then one of Hughes and Son’s first song publications. From this he was on from success to success, with accolades for Y Dymestl at the National Eisteddfod, 1880 as well as Arafa Don which also won plaudits at the same event. Elen Fwyn can be heard here sung by David Lloyd with accompaniment by Meirion Williams.

He is described by David Jenkins, who wrote an obituary for him in Y Cerddor as having “enriched the music of our country more than [anyone] in the past quarter century; truly, he is our “Welsh Schubert”.*

*”Nid oes neb wedi cyfoethogi cerddoriaeth ein gwlad yn fwy nag R. S. yn ystod y chwarter canrif ddiweddaf [sic]; yn wir, efe yw ein “Schubert Cymreig.””

bottom of page