sgroliwch i lawr am y Gymraeg
We’re just back from the latest edition of ISCM (International Society for Contemporary Music) World New Music Days – a celebration of the best in international new music, which took the Faroe Islands as its stage for the 2024 edition.
Eloise Gynn’s Quietening represented Wales, in a mesmerising performance by exceptional UK cellist Zoë Martlew – it was the first of nearly 30 events representing music from ISCM section members around the world, alongside music from the Faroe Islands. All concerts are available to view here.
The beauty of the landscape and the warmth and creativity of the Faroese people made the festival particularly special, as did the welcome from the hosts, The Association of Faroese Composers. Wales and the other international sections of the ISCM now look towards the next World New Music Days, which is to be held in Portugal (Lisbon and Porto) in May/June 2025. See the Wales shortlist for Portugal 2025 here.
We are very grateful to Wales Arts International for making this visit possible.
Cymru yn ISCM 2024
Rydym newydd wedi dychwelyd o ddigwyddiad diweddaraf yr ISCM (Y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Cerddoriaeth Gyfoes) sef Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd – dathliad o’r goreuon mewn cerddoriaeth newydd ryngwladol, a ddewisodd yr Ynysoedd Ffaro fel ei lwyfan ar gyfer digwyddiad 2024.
Cynrychiolodd Quietening Eloise Gynn Gymru, mewn perfformiad hudolus gan y sielydd eithriadol o’r DU, Zoë Martlew – hwn oedd y cyntaf o bron 30 ddigwyddiad yn cynrychioli cerddoriaeth gan aelodau adran ISCM ledled y byd, ochr yn ochr â cherddoriaeth o’r Ynysoedd Ffaro. Mae'r holl gyngherddau ar gael i'w gweld fan hyn.
Roedd harddwch y dirwedd a chynhesrwydd a chreadigrwydd y Ffaroeiaid yn gwneud yr ŵyl yn arbennig iawn, yn ogystal â’r croeso gan y gwesteiwyr, The Association of Faroese Composers. Mae Cymru ac adrannau rhyngwladol eraill yr ISCM nawr yn edrych tuag at Ddiwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd nesaf, sydd i'w cynnal ym Mhortiwgal (Lisbon a Porto) ym mis Mai/Mehefin 2025. Gweler rhestr fer Cymru ar gyfer Portiwgal 2025 yma.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru am wneud yr ymweliad hwn yn bosib.
Commentaires