top of page

Tŷ Cerdd appoints Co-Chairs


L-R: Rachel Ford Evans & Harriet Wybor

sgroliwch i lawr am y Gymraeg


We are delighted to announce Tŷ Cerdd’s new Co-Chairs – Harriet Wybor and Rachel Ford-Evans


Both have been trustees for a number of years, throughout which they have brought considerable expertise and experience to the organisation. The pair’s complementary skills and professional backgrounds make them the perfect team to lead Tŷ Cerdd into the next period. 


The new Co-Chairs take over from Steph Power, who was Chair between 2017 and 2024, and led through the organisation through a period of significant change and development. Tŷ Cerdd owes Steph a huge debt of gratitude for the wisdom, generosity and unerring support she contributed throughout her tenure. A heartfelt thank you to Steph!


 

Mae’n bleser gennym gyhoeddi Harriet Wybor a Rachel Ford-Evans fel Cyd-gadeiryddion newydd Tŷ Cerdd.


Mae'r ddau wedi bod yn ymddiriedolwyr ers nifer o flynyddoedd, a thrwy gydol y cyfnod hwn maent wedi dod ag arbenigedd a phrofiad sylweddol i'r mudiad. Mae sgiliau cyflenwol a chefndir proffesiynol y pâr yn eu gwneud yn dîm perffaith i arwain Tŷ Cerdd i’r cyfnod nesaf.


Mae’r Cyd-gadeiryddion newydd yn dilyn Steph Power, a fu’n Gadeirydd rhwng 2017 a 2024, a arweiniodd y sefydliad drwy gyfnod o newid a datblygiad sylweddol. Mae Tŷ Cerdd yn ddyledus iawn i Steph am y doethineb, haelioni a chefnogaeth ddi-baid a gyfrannodd drwy gydol ei chyfnod yn y swydd. Diolch o galon i Steph!



Harriet Wybor

Harriet has been a Trustee of Tŷ Cerdd since 2019, and became Co-Chair at the end of 2024. For over 15 years, her work has been dedicated to supporting composers and performers, and championing new music.​


Harriet is General Manager at the Royal Philharmonic Society, where her work involves managing partnerships, commissioning, programmes and grants for musicians, fundraising, and co-producing a range of talks and events including the flagship RPS Awards. She previously worked in music publishing, rights management and artist development at Wise Music Group, Manners McDade, PRS for Music, and as Head of Business Development in the music department at Oxford University Press, where she was also elected as a Director of the Music Publishers Association. ​


Harriet is also a member of the Advisory Panel for Music Masters. She originally studied for an MA in composition at Durham University followed by an LLM in intellectual property law at the University of Edinburgh. She returned to Durham University Business School to study part-time from 2017-2019 for an MBA, focussing on non-profit strategy and organisational development.


Harriet grew up in Yorkshire and is now based in Suffolk, where she can often be found at her local concert hall. She also sings with Albion and the Britten Pears Chamber Choir.


Mae Harriet wedi bod yn Ymddiriedolwr Tŷ Cerdd ers 2019, gan ddod yn Gyd-Gadeirydd ddiwedd 2024. Ers dros 15 mlynedd, mae hi wedi gweithio’n ymroddedig i gefnogi cyfansoddwyr a pherfformwyr, a hyrwyddo cerddoriaeth newydd.

Harriet yw Rheolwr Cyffredinol y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol, lle mae ei gwaith yn cynnwys rheoli partneriaethau, comisiynu, rheoli rhaglenni a rhoi grantiau i gerddorion, codi arian, a chyd-gynhyrchu ystod o sgyrsiau a digwyddiadau gan gynnwys gwobrau blaenllaw’r RPS. Cyn hynny bu’n gweithio ym maes cyhoeddi cerddoriaeth, rheoli hawliau a datblygu artistiaid yn Wise Music Group, Manners McDade, PRS for Music, ac fel Pennaeth Datblygu Busnes yn yr adran gerddoriaeth yn Oxford University Press, lle cafodd ei hethol hefyd yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Cyhoeddwyr Cerddoriaeth.

Mae Harriet hefyd yn aelod o’r Panel Ymgynghorol ar gyfer Music Masters. Astudiodd am MA mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Durham ac yna LLM mewn cyfraith eiddo deallusol ym Mhrifysgol Caeredin. Dychwelodd i Ysgol Fusnes Prifysgol Durham i astudio’n rhan-amser rhwng 2017 a 2019 ar gyfer MBA, gan ganolbwyntio ar strategaeth mudiadau dielw a datblygiad sefydliadol.

 

Magwyd Harriet yn Swydd Efrog ac mae bellach yn byw yn Suffolk ac yn aml i’w chanfod yn ei neuadd gyngerdd leol. Mae hi hefyd yn canu gydag Albion a Chôr Siambr Britten Pears.


Rachel Ford-Evans

Rachel brings legal and HR expertise to the Board through her work as an employment lawyer.


Rachel studied law at Cambridge University (Trinity College). After graduating in 2012, she moved back to Cardiff where she undertook a postgraduate legal practice course at Cardiff University. Rachel joined Darwin Gray LLP, a commercial law firm based in Cardiff, as a trainee solicitor in 2014 and qualified as a solicitor in 2016. She specialises in employment law and has developed a particular expertise in, and passion for, equality and discrimination. She regularly trains employers, managers and HR teams on subjects such as equality, diversity and unconscious bias, as well as other issues ranging from GDPR to governance. Rachel has acted for a number of organisations in the arts and charitable sectors on these types of issues.


As well as advising her employer clients on best practice and resolving disputes, Rachel also acts in the Employment Tribunal for employees who have been unfairly treated at work.


Rachel is from Penarth and attended Stanwell School, where she developed a keen interest in music.



Mae Rachel yn dod ag arbenigedd cyfreithiol ac Adnoddau Dynol i’r Bwrdd trwy ei gwaith fel cyfreithiwr cyflogaeth. Ymunodd â’r Bwrdd yn 2021 ac fe’i penodwyd yn Gyd-Gadeirydd ochr yn ochr â Harriet Wybor ym mis Rhagfyr 2024.

Mae Rachel yn gyfreithwraig yn Darwin Gray LLP, sef cwmni cyfreithiol masnachol wedi’i leoli yng Nghaerdydd a Bangor, a hithau wedi ymuno â’r cwmni fel cyfreithiwr dan hyfforddiant yn 2014 ar ôl graddio o Gaergrawnt a Phrifysgol Caerdydd. Mae hi’n arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth ac mae wedi datblygu angerdd ac arbenigedd penodol mewn cydraddoldeb a gwahaniaethu, gan gynghori a chynrychioli sefydliadau mewn ystod o sectorau ar y materion hyn yn rheolaidd. Mae hi hefyd yn hyfforddi cyflogwyr, rheolwyr a thimau AD ar bynciau fel cydraddoldeb, amrywiaeth ac atal aflonyddu rhywiol, yn ogystal â materion eraill yn amrywio o ddiogelu data i gynnal ymchwiliadau yn y gweithle. Mae hi’n rheolaidd yn cynghori elusennau a sefydliadau eraill y trydydd sector ar arfer gorau mewn cyfraith cyflogaeth, adnoddau dynol a llywodraethu.

Yn ogystal â chynghori a chynrychioli cleientiaid sy’n gyflogwyr, mae Rachel hefyd mewn Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn sefyll dros weithwyr sydd wedi cael eu trin yn annheg yn y gwaith.

 

Daw Rachel o Benarth a mynychodd Ysgol Stanwell, lle datblygodd ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth.

Comments


bottom of page