top of page

Tŷ Cerdd a PYST yn cyhoeddi perthynas newydd wrth ryddhau EP


 

Ar achlysur rhyddhau EP o gerddoriaeth piano gan y cyfansoddwr Cymreig nodedig Brian Hughes, mae Tŷ Cerdd a PYST yn cyhoeddi perthynas newydd.


Mae catalog Recordiau Tŷ Cerdd wedi ffynnu ers sefydlu’r label 10 mlynedd yn ôl, a bellach mae ganddo dros 30 o deitlau – o recordiadau o gyfansoddwyr enwog sy’n rhan o dreftadaeth gyfoethog cerddoriaeth Gymreig i gerddoriaeth gyfoes-clasurol, jazz a gwerin newydd sbon. O fis Mehefin 2024, bydd y catalog cyfan yn cael ei ddosbarthu’n ddigidol gan Pyst, gan gadarnhau ymrwymiad y label i seilwaith cerddorol Cymru a’r genedl.

 

Mae’r EP diweddaraf hwn, Contrasts, yn gylch o saith darn byr sy’n archwilio ystod o dechnegau piano – o wead y cordiau gyda defnydd estynedig o’r pedal, i linellau cantabile araf a haenau staccato llawn gwrthbwyntiau.





Ysgrifennodd Brian Hughes y canlynol am y gwaith clo, Preliwd a Ffiwg ar ‘Louvain’: “Yn 1914 dinistriwyd dinas Louvain yng Ngwlad Belg yn llwyr gan fyddin yr Almaen. Daeth ffoaduriaid o’r ddinas ddiwylliannol honno i bentref glofaol Rhosllanerchrugog yn y Gogledd, a chawsant eu cartrefu yng Nghapel Bethlehem, lle’r oedd Dr Caradog Roberts yn organydd. Cyhoeddodd yr emyn-dôn ‘Louvain’ yn 1916, ac mae’n sail i’r preliwd a’r ffiwg hon.”

  

Dywedodd Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd: “Rydym mor falch o ddathlu cerddoriaeth Cymru drwy Recordiau Tŷ Cerdd, ac mae partneru â Pyst i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ymhell ac agos yn ddatblygiad mor gadarnhaol i’r label. Ni allem ofyn am recordiad mwy arbennig i ddechrau’r berthynas hon – mae mân-ddarnau cain Brian Hughes yn rhoi cipolwg hyfryd ac uniongyrchol ar ei waith sain rhyfeddol, yn enwedig yn y perfformiadau crisial glir hyn gan y pianydd arobryn Llŷr Williams.”

  

TCR044: Contrasts 

Brian Hughes (cyfansoddwr) / Llŷr Williams (piano)

Traciau 1 i 7:  Contrasts I-VII

Trac 8:  Prelude & Fugue on “Louvain”

Cyfanswm hyd y cyfan: 15’12”


Rhyddhawyd ar Recrordiau Tŷ Cerdd (TCR044) 21 Mehefin 2024

ar gael i'w ffrydio a lawrlwytho ar bob prif blatfform

bottom of page