top of page

Tŷ Cerdd yn Eisteddfod RCT 2024

Mwynheuon ni wythnos brysur ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol – yn sgwrsio gydag ymwelwyr i’n Stondin (a rannwyd gyda chwe phartner cenedlaethol arall) a chyflwyno gwaith ar lwyfan Encore, ac (i’n cyffro mawr) yn y Pafiliwn, ar gyfer gwobr gyntaf erioed Tlws y Cyfansoddwr.


Fel rhan o berthynas ffrwythlon a pharhaus gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, buom yn cyd-gyflwyno dau ddigwyddiad Darganfod Cerddoriaeth Gymreig, wedi’u curadu gan ein cydweithredwr agos o’r CBCDC, y pianydd Zoë Smith a myfyrwyr Lleucu Parri, Rhys Archer a Clara Greening, a berfformiodd repertoire gan amrywiaeth o gyfansoddwyr Cymreig.


Rydym wedi cydweithio gyda’r Eisteddfod ar Affricerdd, llwybr i gerddorion o liw ers 2021 – gan alluogi cread caneuon newydd yn y Gymraeg. Eleni perfformiodd Asha Jane a Frances Bolley eu caneuon newydd sbon, ochr yn ochr â’u mentor Eädyth, a fu hefyd yn perfformio. Ymddangoswyd Adjua fel artist gwadd, yn canu Hiraeth, cân a ysgrifennwyd o dan y cynllun yn 2023 ac sydd bellach ar gael ar ein label dan arweiniad artistiaid, Sionci. 


Roedd ein digwyddiad Bwthyn Sonig (dilynwch yr Insta newydd fan hyn) ym mhabell Encore yn bleser. Roedd y cyngerdd o gerddoriaeth, gan grewyr ag anabledd dysgu sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun, yn cynnwys set lwyddiannus gan y pianydd Llŷr Griffiths (ynghyd ag Elin Taylor ar y soddgrwth) ac ystod afieithus o ganeuon gan ‘jamwyr de cymru’ Bwthyn Sonig. 



Daeth ein Eisteddfod i ben gyda Tlws y Cyfansoddwr – penllanw proses chwe mis lle bu’r cyfansoddwyr Tomos Wiliams, Lowri Mair Jones, a Nathan James Dearden yn creu gweithiau newydd sbon, gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd, pedwar cerddor o Sinfonia Cymru, a’r cyfansoddwr mentora John Rea. Perfformiwyd y tri darn newydd ar lwyfan y Pafiliwn, a Nathan James Dearden enillodd y Tlws.

Comments


bottom of page