top of page

IAMIC appoints Deborah Keyser as Vice-President



sgroliwch i lawr am y Gymraeg


Deborah Keyser, Director of Tŷ Cerdd – Music Centre Wales, becomes the new Vice-President of IAMIC – International Association of Music Centres.


Keyser moves into the role vacated by Stephan Schulmeistrat, Director of the German Music Information Centre, who himself has become IAMIC’s new President. Schulmeistrat succeeds Diana Marsh (New Zealand), who had held the position since 2021.


"I see it as a great honour and privilege to be able to continue shaping our international community in this special position," said Schulmeistrat. The German Music Information Centre has been closely associated with IAMIC since its foundation in 1998. In 2022, Schulmeistrat and his team organised the annual IAMIC conference with numerous lectures, meetings and cultural events in Hamburg, Bonn and Cologne.


“Deborah and I have become supportive colleagues since we met through IAMIC in 2018. I’m delighted she’ll be supporting my work, along with the rest of the Board.”


Keyser responded: “My IAMIC colleagues have taught me so much in the six years since I joined the Network, and I value Stephan’s wisdom and support. We’ll miss Diana as president a great deal – she really has worked with the Board to transform our organisation, and her energy and commitment will be hard to replace. But her legacy is strong, and it’s an exciting time for IAMIC.”


Together with the Board of Directors, Schulmeistrat and Keyser want to expand the global network of music centres in their new roles and further strengthen public and political profile. In addition, it is important to further promote transatlantic relations between the IAMIC members and to create new formats for exchange, say the pair. 


The International Association of Music Centres (IAMIC) is a global network comprising more than 35 music organisations from all parts of the world. As a knowledge-centre for the music world, IAMIC's mission is to increase public awareness of its members and facilitate access to the wealth of resources and expertise these institutions offer in all genres.




 


Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd – Canolfan Cerddoriaeth Cymru, yw Is-Lywydd newydd IAMIC, sef Cymdeithas Ryngwladol y Canolfannau Cerddoriaeth.


Mae Keyser yn symud i’r rôl a adawyd yn wag gan Stephan Schulmeistrat, Cyfarwyddwr Canolfan Gwybodaeth Cerddoriaeth yr Almaen, sydd ei hun nawr wedi dod yn Llywydd newydd IAMIC. Mae Schulmeistrat yn olynu Diana Marsh (Seland Newydd), a oedd wedi bod yn y swydd ers 2021.


“Mae’n anrhydedd ac yn fraint fawr i mi allu parhau i siapio ein cymuned ryngwladol yn y swydd arbennig hon,” meddai Schulmeistrat. Mae Canolfan Gwybodaeth Cerddoriaeth yr Almaen wedi bod yn gysylltiedig agos ag IAMIC ers ei sefydlu yn 1998. Yn 2022, trefnodd Schulmeistrat a’i dîm gynhadledd flynyddol IAMIC gyda nifer o ddarlithoedd, cyfarfodydd a digwyddiadau diwylliannol yn Hamburg, Bonn a Cologne.


“Mae Deborah a minnau wedi dod yn gydweithwyr cefnogol i’n gilydd ers i ni gyfarfod drwy IAMIC yn 2018. Rwyf wrth fy modd y bydd hi’n cefnogi fy ngwaith, ynghyd â gweddill y Bwrdd.”


Meddai Keyser: “Mae fy nghydweithwyr yn IAMIC wedi dysgu cymaint i mi yn y chwe blynedd ers i mi ymuno â’r Rhwydwaith, ac rwy’n ddiolchgar o ddoethineb a chefnogaeth Stephan. Byddwn yn gweld eisiau Diana fel llywydd yn fawr – mae hi wedi gweithio gyda’r Bwrdd i wir drawsnewid ein sefydliad, a bydd yn anodd olynu ei hegni a’i hymrwymiad. Ond mae ei hetifeddiaeth yn gryf, ac mae’n gyfnod cyffrous i IAMIC.”


Gyda’r Bwrdd Cyfarwyddwyr, mae Schulmeistrat a Keyser am ehangu’r rhwydwaith byd-eang o ganolfannau cerddoriaeth yn eu rolau newydd a chryfhau eu proffil cyhoeddus a gwleidyddol ymhellach. Yn ogystal, dywed y ddau ei bod yn bwysig hyrwyddo cysylltiadau ymhellach dros yr Iwerydd rhwng aelodau IAMIC a chreu fformatau newydd ar gyfer cyfnewid.


Mae Cymdeithas Ryngwladol y Canolfannau Cerddoriaeth (IAMIC) yn rhwydwaith byd-eang sydd â mwy na 35 o sefydliadau cerdd o bob rhan o’r byd. A hithau’n ganolfan wybodaeth ar gyfer y byd cerddoriaeth, cenhadaeth IAMIC yw cynyddu faint mae’r cyhoedd yn ei wybod am ei haelodau a hwyluso mynediad i’r cyfoeth o adnoddau ac arbenigedd sydd gan y sefydliadau hyn ym mhob genre.




Yorumlar


bottom of page