top of page

Cheryl Beer: Inclusive Orchestration blog #3



Inclusive Orchestration

​Cân y Coed Quintet - Part 3 of 4


This is the third in a collection of 4 blogs to journal & share the journey of my professional development in the hope that it may help others who, like me, need to explore innovative solutions when facing challenges within their creative practice.


Since my last blog, the Quintet have been meeting regularly at Delyth's studio to learn our edited and adapted version of Cân y Coed Rainforest Symphony. As you may have read in my previous blogs, Delyth and I have spent time together inclusively orchestrating the piece, arranging it for a 5 piece bass recorder quintet so that my composition is compatible with my hearing loss, tinnitus & hyperacusis. We then sent the music score to Lloyd Coleman for feedback. Lloyd is the Associate Music Director of the Paraorchestra and score mentor for the project.


I should mention that in the photo & videos you'll notice 2 of our team had injuries! Delyth with a broken arm and Tim with a black eye & stitches. Both had separate pushbike accidents, but thankfully, are now healed and well.


​We all met at Ffwrnes Fach, where People Speak Up are based. It's a beautifully renovated chapel building and adjoins Y Ffwrnes Theatre. People Speak Up have kindly contributed the venue in-kind for Inclusive Orchestration, the main funding being from the Arts Council of Wales Creative Steps.


In this short clip, you can hear one of my favourite phrases from the piece. What is most magical about it for me is that it is played in a low enough range for me to hear it and gentle enough, so as not to trigger by hyperacusis.




 

Offeryniaeth Gynhwysol

Pumawd Cân y Coed - ​Rhan 3 o 4


Dyma'r trydydd o gasgliad o 4 blog a fydd yn cofnodi ac yn rhannu taith fy natblygiad proffesiynol – yn y gobaith y gall helpu pobl eraill sydd, fel finnau, yn gorfod chwilio am atebion arloesol wrth wynebu heriau yn eu hymarfer creadigol.


Ers fy mlog diwethaf, mae'r Pumawd wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd yn stiwdio Delyth i ddysgu ein fersiwn a olygwyd ac a addaswyd o Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed. Efallai y byddwch wedi darllen yn fy mlogiau blaenorol fod Delyth a minnau wedi treulio amser gyda'n gilydd yn sgorio'r darn fel y bydd yn gynhwysol. Fe’i trefnom ar gyfer pumawd o chwaraewyr recorders bas fel bod fy nghyfansoddiad yn gydnaws â cholli fy nghlyw, tinitws a hyperacusis. Yna anfonom y sgôr gerddoriaeth at Lloyd Coleman am ei adborth. Mae Lloyd yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Cysylltiol y Baragerddorfa ac yn 2il fentor i mi ar y prosiect.


Dylwn nodi y byddwch yn gweld yn y llun a'r fideos bod 2 aelod o'n tîm wedi cael eu hanafu! Delyth wedi torri ei braich a Tim gyda llygad du a phwythau. Bu'r ddau ohonynt mewn damweiniau beic ar wahân, ond yn ffodus mae'r ddau wedi gwella erbyn hyn. Cyfarfuom yng nghanolfan People Speak Up, Ffwrnes Fach. Mae hwn yn adeilad capel sydd wedi'i adnewyddu'n hardd wrth ochr Theatr Ffwrnes. Mae People Speak Up wedi bod mor garedig â chyfrannu'r lleoliad mewn gwasanaeth i Offeryniaeth Gynhwysol, a rhoddwyd y prif gyllid gan Gamau Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru. ​Yn y clip byr hwn, gallwch glywed un o'm hoff frawddegau o'r darn. Yr elfen fwyaf hudolus i minnau yw ei fod yn cael ei chwarae ar amrediad sy'n ddigon isel i mi ei glywed, ond yn ddigon ysgafn fel nad yw'n sbarduno fy hyperacusis.


Comments


bottom of page