top of page

Caneuon Cymraeg newydd gan Adjua ac Aisha Kigs wedi’u rhyddhau ar Sionci

 

    

 

Mae’r ddau gyhoeddiad yn bennod newydd i AffriCerdd – sef y bartneriaeth rhwng Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cefnogi artistiaid lliw i weithio yn y Gymraeg.

 

Ym mis Gorffennaf bydd dwy gân Gymraeg newydd yn cael eu rhyddhau gan yr artistiaid addawol o Gymru, Adjua ac Aisha Kigs, ar label Sionci Tŷ Cerdd, sef label dan arweiniad artistiaid.

 

Crëwyd y caneuon yn wreiddiol gan y ddau artist ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2023 fel rhan o fenter Tŷ Cerdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, gyda’r nod o gefnogi cerddorion lliw i greu caneuon newydd yn yr iaith Gymraeg. Tyfodd y prosiect o ymrwymiad y ddau sefydliad i gefnogi crewyr cerddoriaeth o bob cefndir i greu gwaith yn y Gymraeg.

 

Cafodd Adjua ac Aisha eu mentora drwy’r broses gan yr artistiaid blaenllaw Eädyth ac Aleighcia Scott – a oedd hefyd wedi perfformio yng nghyngerdd clo’r prosiect ar lwyfan Encore yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan. Gweithiodd Eädyth gyda’r artistiaid (gan fod y ddwy ar ddechrau eu taith yn canu drwy gyfrwng y Gymraeg) gan fynd ati i ddatblygu eu hyder wrth ysgrifennu a pherfformio geiriau Cymraeg – gyda chefnogaeth Aleighcia Scott, a hithau yn siaradwr Cymraeg newydd.

 

Dechreuodd y fenter yn 2021 fel prosiect Eisteddfod Amgen (o dan y teitl CoDi Cân bryd hynny) pan gafodd pum artist lliw eu cefnogi i ysgrifennu caneuon Cymraeg newydd, a chreu eu fideos cerddoriaeth eu hunain – a’r mentora wedi bod gan Lily Beau, Tumi Williams a Jonny Reed.

 

Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu ar gyfer Eisteddfod 2024 – mae bellach o dan ymbarél AffriCerdd. Eleni bydd Eädyth yn mentora’r artistiaid Asha Jane a Frances Bolley i greu caneuon newydd, a byddant yn cael eu perfformio ar lwyfan Encore am 1200 ddydd Iau 8 Awst – ochr yn ochr ag Adjua ac Aisha Kigs, a fydd yn canu caneuon 2023 eto.

 

Bydd y ddwy sengl yn cael eu dosbarthu gan PYST, o dan berthynas newydd sy’n pwysleisio ymrwymiad Tŷ Cerdd at Gymru a seilwaith cerddorol y genedl.

 

I’w rhyddhau ar Recordiau Sionci

ar gael i’w ffrydio a’u lawrlwytho ar yr holl brif blatfformau:

 

Adjua – Hiraeth  TCR046

(hyd: 03:09)

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2024

 

Aisha Kigs – Llygaid Cudd  TCR047

(hyd: 04:01)

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2024



Newydd ddechrau Sionci y mae Tŷ Cerdd, sef label digidol sy’n cyd-fynd â’n menter bresennol Recordiau Tŷ Cerdd. Mae Sionci wedi’i lunio i alluogi artistiaid traws-genre i ddatblygu’n greadigol ac i ddatblygu eu gyrfa. Yr artistiaid sy’n cymryd yr awenau o ran y cyfeiriad ac wrth hyrwyddo a dylunio, gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd lle bo angen. Yn hollbwysig, mae Sionci yn seiliedig ar roi rhaniad breindal mwy ffafriol i artistiaid – gan ganiatáu mwy o berchnogaeth a rhyddid creadigol i artistiaid.

bottom of page