Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
perisgop
Mae Perisgop yn cyflwyno golygfa o'r byd trwy lygaid rhywun arall. Wedi'i wneud mewn partneriaeth ag UCAN Productions, mae'r cynhyrchiad yn rhoi llais cerddorol a mynegiant artistig i brofiadau pobl â nam ar eu golwg yn ystod pandemig Covid 19. Mae tîm artistig Perisgop i gyd â nam ar eu golwg: y cyfansoddwr Gareth Churchill, yr awdur Kaite O’Reilly a’r gwneuthurwr ffilmiau Jake Sawyers.
Gwyliwch y ffilm:
Dechreuwyd cyfnod saith mis o gyfansoddi gan gyfres o weithdai ar-lein: ymchwil a datblygu sydd wedi arwain at waith theatr gerddoriaeth siambr, wedi'i berfformio gan ensemble anabl – dau soprano, llefarydd, ffliwt, a phiano. Mae Perisgop yn datblygu fel cylch caneuon dramatig tri symudiad, wedi’i fframio gan ddwy ‘stream’ air am air sy’n cynnwys lleisiau go iawn y bobl a gyfwelwyd.
Bydd y ffilm gydag isdeitlau trwy gydol yr hyd (nid oes yna BSL). Rydyn ni’n gobeithio byddwch chi’n ei fwynhau.
Y perfformwyr ydy:
Joanne Roughton Arnold (soprano)
Rebecca Jolliffe (ffliwt / soprano 2)
Rachel Starritt (piano)
Gareth Churchill (Llais siarad Cymraeg)