top of page

Małgola Gulczynska aka Małgola, No 

1991

Cantores-gyfansoddwraig ganeuon a chynhyrchydd DIY o Wlad Pwyl yw Małgola, No sydd ar hyn o bryd yn byw yng Nghaerdydd. Ar ei phalet cyfansoddi caneuon, bydd pob arlliw o gerddoriaeth bop yn cael ei gymysgu – o synau bachog y 60au, baledi’r 70au a synthmania’r 80au i feibs RnB y 2000au.

 

Er i’w halbwm cyntaf, A/B (Indiana Records (2016) gael ei recordio mewn stiwdio stafell wely, derbyniodd dipyn o glod gan y beirniaid yng Ngwlad Pwyl a thynnu sylw Gruff Rhys o’r Super Furry Animals (a’i dewisodd fel ei ffefryn yn 2016). Rhyddhaodd Małgola ei hail albwm Health, Beauty & Ghosts yn 2020 ac yna ei halbwm Pwyleg cyntaf o'r enw 'Jaskinia Chrabiej Czaszki' (2022). Mae'n waith sy'n gysyniad amlddisgyblaethol, lle mae caneuon pop antur yn cyd-fynd â geiriau ar ffurf stribedi llyfrau comig.


Mae'r albwm wedi derbyn ei doppelgaenger yn 2023, pan greodd a rhyddhaodd Małgola, No ei fersiwn 8-bit (chiptune), a elwir 'The Cave of Llord Skull'.

 

Mae wedi perfformio mewn gwyliau megis Liverpool Sound City, FOCUS Cymru, Ara Deg ac Enea Spring Break. Yn ogystal â gwaith ar ei phen ei hun, mae Malgola yn perfformio mewn deuawd pop amgen, 100% Rabbit, yn chwarae synths a’r ffliwt mewn band pync-pop, Live, Do Nothing, ac yn ymuno o bryd i’w gilydd â TeiFi ar y llwyfan, gan rapio a dawnsio.

 

Bydd Małgola yn treulio ei hamser rhydd yn cyfansoddi sgorau i ffilmiau byrion a hysbysebion.

Malgola, No .jpg
  • SoundCloud
  • Bandcamp
  • Spotify
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
ENG

Małgola, No is a Polish DIY singer-songwriter and producer, currently based in Cardiff. On her songwriting palette, all shades of pop music are mixed — from 60s catchiness, 70s balladeering and 80s synthmania, to 2000s RnB vibes...

 

Even though her debut album A/B (Indiana Records, 2016) was recorded in a bedroom studio, it was critically acclaimed in Poland and noticed by Gruff Rhys of Super Furry Animals (who picked it as his favourite of 2016). Małgola released her second album Health, Beauty & Ghosts in 2020 followed by her first Polish language album called 'Jaskinia Chrabiej Czaszki' (2022). It's a multidisciplinary concept work, where adventure pop songs are accompanied by lyrics in a form of comic book strips.


The album has gained its doppelgaenger in 2023, when Małgola, No created and released its 8-bit (chiptune) version, known as 'The Cave of Llord Skull'.

 

She has performed at festivals such as Liverpool Sound City, FOCUS Wales, Ara Deg and Enea Spring Break. In addition to solo work Małgola performs in an alt-pop duo 100% Rabbit, plays synths and the flute in a punk-pop band Live, Do Nothing, and occasionally joins TeiFi on stage, rapping and dancing.

 

Małgola spends her free time composing scores for short movies and advertisements.

bottom of page