Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Grantiau Loteri TÅ· Cerdd

Llunio cais cryf am gyllid
Yn y canllaw hwn mae awgrymiadau ar y math o wybodaeth y gallech ei chynnwys yn eich cais er mwyn cynyddu eich siawns o gael cyllid. Nid yw hon yn rhestr gyflawn, a bydd y manylion yn dibynnu ar eich prosiect. Mae’r panel yn chwilio am brosiectau sydd wedi’u cynllunio’n dda sy’n dangos effaith glir ac sy’n bodloni’r blaenoriaethau ariannu.
Rhowch fanylion am y gweithgarwch yr hoffech i ni ei ariannu (dim mwy na 500 gair).
​
Dywedwch yn union wrthym pa weithgaredd yr ydych yn bwriadu ei gynnal, gan gynnwys dyddiadau, lleoliadau, artistiaid, rhaglenni, ac unrhyw wybodaeth arall y gallwch ei rhoi.
​
Yr adran hon yw eich cyfle i roi darlun clir i ni o’ch prosiect. Byddwch mor benodol â phosibl a cheisiwch esbonio’n glir yr hyn yr ydych yn ei gynnig.
Cadwch y canlynol mewn cof:
​
-
Dylech ddweud mwy na dim ond beth rydych yn ei wneud, dywedwch wrthym sut byddwch chi’n ei wneud. Er enghraifft, yn hytrach na dweud "Byddwn yn cynnal gweithdai," dywedwch "Byddwn yn cynnal saith gweithdy yn para dwy awr yr un ar gyfansoddi caneuon, a bydd y rhain wedi’u harwain gan y cerddor X, ac yn canolbwyntio ar genre Y / sgiliau Z."
​
-
Rhowch fanylion dyddiadau a lleoliadau gweithgareddau. Os yw’r lleoliadau wedi’u cadarnhau, nodwch hyn. Os nad ydynt, eglurwch eich cynllun i gael gafael ar leoliadau addas.
​
-
Ymhelaethwch ar beth fydd cynnwys gweithdai, perfformiadau, neu weithgareddau eraill. Dylech gynnwys manylion am berfformwyr, repertoire, themâu neu hwyluswyr.
​
-
Soniwch am yr artistiaid a fydd yn rhan – eu profiad a’u harbenigedd perthnasol. Mae canllawiau eraill (yn dod yn fuan) ar lenwi’r ffurflen gyllideb ond mae’n werth nodi yma ein bod yn disgwyl i chi dalu artistiaid proffesiynol yn briodol am eu sgiliau a’u hamser – yn unol â chyfraddau safonol y diwydiant.
​
-
Os ydych yn bwriadu gweithio gyda grwpiau cymunedol penodol, nodwch hyn ac eglurwch sut y byddwch yn ymgysylltu â nhw. Er enghraifft, sut byddwch chi’n cysylltu â’r cymunedau/cyfranogwyr yr hoffech iddynt gymryd rhan? Sut byddant yn dod i wybod am eich prosiect?
​
-
Wrth i’r panel asesu eich gallu i gynnal y gweithgaredd, byddai’n gymorth iddynt pe gallech ddisgrifio sut y caiff y prosiect ei reoli. Pwy sy’n gyfrifol am oruchwylio’r prosiect? Pa brofiad sydd ganddyn nhw?
​
-
Dywedwch wrthym sut mae eich prosiect yn ateb ein blaenoriaethau ariannu (e.e. meithrin cerddoriaeth newydd, creu partneriaethau, ysbrydoli pobl ifanc, ac ati). Dylech ymhelaethu ar y geiriau allweddol; eglurwch sut y bydd eich gweithgareddau yn cyfrannu at y blaenoriaethau hyn. Er enghraifft, “Bydd y prosiect hwn yn helpu i ddod â chymunedau ynghyd drwy…” neu “Rydym yn creu partneriaeth newydd gyda xxx a fydd yn…”
​
-
A oes unrhyw beth sy’n gwneud eich prosiect yn wahanol? A oes rhywbeth unigryw neu arloesol am eich dull gweithredu? Bydd tynnu sylw at hyn yn gallu cryfhau eich cais.
​
-
Ystyriwch sut y byddwch yn gwneud eich prosiect yn agored ac yn hygyrch i bob aelod o'r gymuned, gan gynnwys pobl anabl neu bobl o grwpiau a dangynrychiolir neu sydd wedi’u hallgáu.
​
​
Sut bydd y prosiect yn gwneud gwahaniaeth i’r cyfranogwyr a’r gymuned y byddwch yn ymwneud â nhw? (dim mwy na 500 gair).
​
Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar effaith eich prosiect. Meddyliwch am y manteision tymor byr a thymor hir i gyfranogwyr, cymunedau ac artistiaid.
​
-
A ydych yn disgwyl i’ch prosiect gael canlyniad penodol ar gyfer eich sefydliad/mudiad? Efallai cynnydd yn nifer yr aelodaeth neu gynulleidfaoedd newydd?
​
-
Sut bydd cyfranogwyr yn elwa o gymryd rhan? A fyddant yn datblygu sgiliau newydd, yn cynyddu eu hyder, neu'n cael mynediad i brofiadau newydd?
​
-
Sut bydd y prosiect o fudd i’r cymunedau rydych wedi dewis gweithio gyda nhw? A fydd yn hybu cydlyniant cymdeithasol, yn gwella bywyd diwylliannol, neu’n mynd i’r afael ag angen cymunedol penodol?
​
-
Sut bydd y prosiect yn cefnogi datblygiad yr artistiaid dan sylw? A fydd yn rhoi cyfle am ddatblygiad artistig neu gyfleoedd newydd iddynt?
​
-
Os oes gennych unrhyw gynlluniau i barhau â’r prosiect neu ei ddatblygu y tu hwnt i’r cyfnod ariannu, efallai yr hoffech sôn amdano yma.
​
​
Pethau eraill i feddwl amdanynt:
​
-
Defnyddiwch iaith glir a chryno a pheidiwch â defnyddio jargon. Nid oes angen i chi ddefnyddio iaith sy’n swnio’n swyddogol – y cyfan sydd ei angen yw gwneud yn siŵr bod eich cais yn hawdd i’w ddarllen a’i ddeall. Mae croeso i chi ddefnyddio pwyntiau bwled os credwch bod hynny’n symlach.
​
-
Os ydych yn cael trafferth â cheisiadau ysgrifenedig, mae pob croeso i chi gysylltu â ni i drafod cyflwyno cais fideo.
​
-
Cyllideb: Mae angen i chi hefyd lunio cyllideb ar gyfer eich prosiect gan ddefnyddio ein templed. Mae arweiniad fideo ar lenwi templed y gyllideb i’w gael yma
​
-
Rhan o amodau unrhyw gyllid yw bod angen i ni weld adroddiad cwblhau ar ddiwedd y prosiect – felly dylech feddwl sut y gallwch werthuso eich prosiect
​
​Mae ein cylchoedd ariannu yn boblogaidd iawn ac fel arfer rydyn ni’n cael nifer fawr iawn o geisiadau. Er y gall eich cais fod yn gryf, yn y bôn nid oes gennym yr arian i’w roi i bob prosiect. Hyd yn oed os yw eich cynnig yn bodloni ein blaenoriaethau, mae’n bosibl y bydd ceisiadau eraill yn dangos cydweddiad cryfach neu fwy o effaith. Rydym hefyd yn ystyried dosbarthiad daearyddol ein cyllid a natur y sefydliadau rydym yn eu cefnogi. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn hapus i’w drafod gyda chi a chynnig adborth ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol.
