Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Cyfansoddwraig ac artist sain yw Jo Thomas, a aned a’i magu yng Nghymru ac sydd bellach yn byw yn Llundain o ble mae’n gweithio.
Mae’n cyfansoddi ar gyfer y llwyfan cyngherddau, orielau, troeon sain ac i ryddhau’n fasnachol ac mae ei gwaith wedi ennill gwobrau rhyngwladol. Mae Jo yn ei gweld ei hun fel rhywun anabl ac yn eiriolwraig dros fynediad teg yn y celfyddydau. Hi yw Is-gadeirydd Sound and Music ac un o gyfarwyddwyr Academi Ivors.
Gwrandewch ar 'Sketch of Nature'...
Sketch of Nature – nodyn cyfansoddwr
Mae’r gwaith wedi’i seilio ar y pedair adran o’r ardd furiog yn nhÅ· gwreiddiol y Faenor (sydd o fewn tiroedd yr ysbyty), ynghyd â barddoniaeth gan Elizabeth Mitchell a fu’n byw yn yr hen dÅ· ac atgofion y rheini sy’n gwirfoddoli yn yr ardd.
Mi anogais y gwirfoddolwyr drwy weithdai i fyfyrio ar y gofodau o’u cwmpas ac wedyn mi wnes i recordio agweddau ar y sain gan fraslunio delweddau o’n hamgylchedd.
Mae pedair rhan i’r darn:
-
water revelations – seiliedig ar y cerflun dŵr ger y brif giât
-
rockwall – adeunydd sain sy’n swnio’n dew. Daw’r cerrig yn y wal o bob cwr o Gymru ac roedd y wal fel pe bai’n dal rhyw soniaredd hudol dwfn oedd yn elfennol iawn ac roeddwn i am ddal hwnnw
-
poly plastic – wedi’i hysbrydoli gan ddisgrifiad a roddwyd gan Jan, pennaeth y gwirfoddolwyr, o sŵn y tÅ· gwydr polyplastig pan fyddai’r glaw’n syrthio
-
blossom – yn darlunio atgof o eistedd yn yr ardd yn agos i le mae’r geiriosen wedi’i phlannu – lle llonydd i fyfyrio
Mae’r feiolinydd Simmy Singh yn chwarae feiolín unawd yn y gwaith hwn. Dw i’n clywed sŵn y feiolín fel rhyw fath o gyfarwydd sy’n adrodd stori heb eiriau, seiliedig ar sain a natur unigryw’r lle. Buon ni’n cydweithio o bell o’n stiwdios, gyda Simmy yn recordio yng Nghaerdydd a finnau’n gweithio yn Llundain.
Gardd heb unrhyw waliau - llun gan Jo Thomas
Creigiau gwreiddiol o wal yr ardd
Detholiad o sgôr Rock Wall
Fe wnaethon ni ofyn i Jo am genesis ei darn, y profiad o gysylltu dros Zoom a chyfuno gwahanol genres o gerddoriaeth ...