Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
GALWAD SHOWCASE SCOTLAND
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan berfformwyr yng Nghymru sy’n barod i arddangos eu cerddoriaeth a datblygu cynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
​
Bydd Cymru a Llydaw yn rhannu’r llwyfan yn Showcase Scotland 2023, a’r ddwy genedl yn dod â thri artist/act yr un i berfformio yn Glasgow ac i gwrdd â’r diwydiant.
​
Mae TÅ· Cerdd, Focus Wales, Trac Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi dod ynghyd i alw ar artistiaid o Gymru i wneud cais am y cyfle.
​
Y dyddiad cau yw 1700 ddydd Gwener 22 Gorffennaf.
![Showcase Scotland 2023 luggage label.png](https://static.wixstatic.com/media/48cc6e_0e8b8c5650be4d2cb32a1098ea1a3d8a~mv2.png/v1/crop/x_0,y_0,w_1563,h_2042/fill/w_437,h_567,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Showcase%20Scotland%202023%20luggage%20label.png)
SHOWCASE SCOTLAND @ CELTIC CONNECTIONS
Arddangosfa a ffair fasnach i’r diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol yw Showcase Scotland; mae’n para 5 diwrnod ac yn cael ei gynnal bob blwyddyn yn ystod gŵyl Celtic Connections yn Glasgow. Bydd digwyddiad 2023 yn gyfle i gerddorion a’u timau rheoli rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol, a datblygu eu gyrfaoedd a’u busnesau. Mae’n dilyn Showcase Scotland 2022, a oedd wedi rhoi llwyfan digidol i 6 act o Gymru yn ystod Spotlight Cymru Wales.
Gŵyl flynyddol fawr yw Celtic Connections sy’n llwyfannu cerddoriaeth werin, cerddoriaeth wreiddiau a cherddoriaeth y byd. Mae’n dathlu cerddoriaeth Geltaidd a’i chysylltiad â diwylliannau o amgylch y byd, ac yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ledled Glasgow yn ystod mis Ionawr.
​
A YW SHOWCASE SCOTLAND YN ADDAS I MI/FY NGRÅ´P?
Dyma gyfle gwerthfawr i ddangos eich cerddoriaeth i bobl broffesiynol blaenllaw o’r diwydiant, gan gynnwys trefnwyr gwyliau, cynrychiolwyr lleoliadau ac asiantau o bob cwr o’r byd. Mae’r rhain yn bobl sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth werin, cerddoriaeth wreiddiau a cherddoriaeth y byd sy’n dathlu ei dylanwadau Celtaidd ac sy’n cysylltu â diwylliannau ym mhedwar ban y byd. Er bod pwyslais Showcase Scotland ar genres cerddoriaeth werin a cherddoriaeth draddodiadol gyfoes, rydyn ni’n awyddus i glywed gan ystod eang o artistiaid a thraddodiadau byw, yn enwedig:
-
artistiaid sy’n gweithio yn y Gymraeg
-
artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang
-
artistiaid anabl neu sydd â salwch (meddyliol neu gorfforol)
-
artistiaid o gymunedau sydd o dan anfantais economaidd, cymunedau wedi’u hallgáu a chymunedau lleiafrifol
-
artistiaid sy’n cydweithio’n arloesol i gyfuno genres.
​
BETH YW'R BROSES DDETHOL?
Bydd ceisiadau a ddaw i law yn cael eu hystyried gan banel o gynghorwyr a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, a’r rheini’n dod o ystod eang o gymunedau a chefndiroedd proffesiynol. (Bydd enwau aelodau’r panel yn cael eu cyhoeddi pan gânt eu cadarnhau.) Bydd y panel yn asesu pob cais ar sail y meini prawf ac yn creu rhestr fer derfynol o tua 6 o berfformwyr. Rhoddir y rhestr fer i Gyfarwyddwr Artistig Celtic Connections a fydd wedyn yn dewis 3 i ymddangos yn rhan o berfformiadau Showcase.
​
BETH FYDD YR ARTISTIAID LLWYDDIANUS YN EI GAEL?
Bydd yr artistiaid llwyddiannus yn cael eu talu am berfformiad yn y Celtic Connections a byddant hefyd yn perfformio mewn digwyddiad i berfformwyr o Gymru yn benodol ar gyfer cynrychiolwyr o’r diwydiant cerddoriaeth a fydd yn Showcase Scotland. Bydd nifer o gyfleoedd i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant ac artistiaid eraill yn ystod y diwrnodau eraill.
Bydd costau teithio, llety a per diems yn cael eu darparu. Byddwn hefyd yn ystyried costau ar gyfer gallu cael mynediad a chostau gofal plant os yw hynny’n rhwystro’r artistiaid sy’n cael eu dewis rhag cymryd rhan.
​
RHAGLEN DATBLYGU ARTISTIAID (ADP)
Gyda chymorth ariannol gan CCC/CRhC, mae TÅ· Cerdd, FOCUS Wales a Trac Cymru wedi cydweithio i gyflwyno rhaglen ddatblygu ar gyfer 15 artist/act a wnaeth gais i Showcase Scotland 2022 – gan ddarparu mentora, rhwydweithio a bwrsariaethau. Rydym yn ymchwilio i’r posibilrwydd/awydd am raglen debyg ar gyfer ymgeiswyr dethol i ddigwyddiad 2023 a byddwn yn ystyried barn yr ymgeiswyr.
GWNEUD CAIS
Gallwch wneud cais drwy’r ffurflen hon ar-lein
[DS Wrth lenwi’r cais, gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth angenrheidiol gennych wrth law. Ni allwch gadw manylion yn y ffurflen hon ac felly os byddwch yn ei gadael ac yn dychwelyd ati bydd angen i chi ddechrau o’r newydd eto.]
​
DS Derbynnir ceisiadau sain neu ar fideo hefyd – lanlwythwch y wybodaeth y gofynnir amdani yng nghwestiynau 1, 2 a 7-10 i’r ffurflen lanlwytho, a recordiwch sain/fideo ohonoch chi’ch hun yn ateb cwestiynau 3-6 (dim mwy na 5 munud o hyd).
Mae’r ffurflen yn gofyn i chi am y canlynol:
-
Enw llawn
-
Cyfeiriad post (rhaid i hwn fod yng Nghymru); cyfeiriad e-bost; rhif ffôn symudol
-
Disgrifiwch eich gwaith, a dywedwch wrthym pam y credwch fod eich cerddoriaeth yn addas i Showcase Scotland hyd at 150 gair
-
Dywedwch wrthym pam rydych chi’n ymgeisio a sut y bydd y cyfle hwn yn cynorthwyo i ddatblygu eich gyrfa hyd at 100 gair
-
A oes gennych chi uchelgais i weithio’n rhyngwladol? Os oes, ble a pha mor ddatblygedig yw eich cynlluniau? hyd at 100 gair
-
Pa gefnogaeth fydd ei hangen arnoch i fynd i’r afael â phrif fantais y cyfle hwn (ee mentora, hyfforddiant, cynrychiolaeth)? hyd at 50 gair
-
Rhowch ddolenni i’r traciau sydd gennych ar hyn o bryd ar-lein, a thystiolaeth fod gennych chi gynulleidfa eisoes i’ch cerddoriaeth (e.e. Spotify, iTunes, Bandcamp, etc, a dolenni i recordiadau, perfformiadau, fideos, y cyfryngau cymdeithasol, cerddoriaeth wedi’i lawrlwytho, adolygiadau o waith wedi’i recordio a pherfformiadau, ati)
-
Rhowch fanylion y gynrychiolaeth broffesiynol sydd gennych ar hyn o bryd (rheolwr, asiant, hyrwyddwr) os oes gennych un
-
Esboniwch sut y byddwch chi’n manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd mae Showcase Scotland yn eu cynnig, er enghraifft, drwy eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, cynnyrch hyrwyddo ar gyfer y digwyddiad, Pecyn Electronig i’r Wasg (EPK) ar gael, neu luniau fideo byw.
-
Ffurflen monitro cydraddoldeb
​
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 1700 ddydd Gwener 22 Gorffennaf
DEWCH I SESIWN ZOOM AGORED I GAEL RHAGOR O WYBODAETH
Bydd y partneriaid yn cynnal cyfarfod Zoom agored am 1700 ddydd Iau 14 Gorffennaf i siarad mwy am y cyfle a gynigir gan Showcase Scotland ac i ateb cwestiynau gan unrhyw un sydd â diddordeb. Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn anffurfiol hon i drafod, lle gallwn eich helpu i weld a yw’r cyfle hwn yn addas i chi.
Dalier sylw: bydd cyfieithu Cymraeg i Saesneg a BSL ar gael.
Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn Zoom YMA
NODIADAU I YMGEISWYR
-
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dangos hanes cryf o lwyddo, a dangos bod gennych chi gynulleidfa eisoes.
-
Byddai’n fanteisiol pe bai gennych chi dystiolaeth o ddiddordeb neu gefnogaeth eisoes gan y diwydiant cerdd, megis tystiolaeth o gynrychiolwyr proffesiynol (rheolwr, asiant neu hyrwyddwr); rhowch fanylion y rhain yn eich cais.
-
Efallai y bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn cyfweliadau â’r wasg a sesiynau tynnu lluniau yn ôl y galw ar gyfer prosiect Cymru yn Showcase Scotland.
-
Rhaid i chi fod ar gael i berfformio yn Glasgow yn ystod dyddiadau gŵyl Showcase Scotland 2023. Mae’n debygol mai rhwng 26 a 29 Ionawr 2023 fydd hyn (sylwer bod posibilrwydd y bydd raid recordio ymlaen llaw ar gyfer perfformiadau hybrid oherwydd y pandemig)
-
Bydd y panel yn ystyried yn awtomatig y cyflwyniadau a wnaed ar gyfer Showcase Scotland 2022 gan artistiaid na chawsant le llynedd. Sylwer: croesewir unrhyw ddiweddariad i wybodaeth (datganiadau newydd; recordiadau/perfformiadau ychwanegol; EPKs wedi’u diweddaru), a dylid anfon e-bost at showcasescotland@tycerdd.org
-
Ni fydd artistiaid a ddewiswyd i Showcase Scotland yn 2022 yn cael eu hystyried ar gyfer 2023.
-
Os ydych yn ansicr ynghylch gwneud cais, yn bryderus am rwystrau rhag ymgeisio, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch showcasescotland@tycerdd.org i drefnu sgwrs anffurfiol.
![Showcase Scotland 2023 call logo strip.png](https://static.wixstatic.com/media/48cc6e_3b68ab74ce164a3e9ce428a688a4dc8c~mv2.png/v1/crop/x_122,y_0,w_3193,h_483/fill/w_879,h_133,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Showcase%20Scotland%202023%20call%20logo%20strip.png)