top of page

Rydym yn galw ar grewyr cerddoriaeth i ymuno â llwybr datblygu sydd â thâl ar gyfer ysgrifennu i ffidil ac electroneg.

Bydd 6 o grewyr cerddoriaeth yn cael eu mentora drwy’r broses gan Angharad Davies (cyfansoddwr) Darragh Morgan (feiolinydd), sef artistiaid blaenllaw ym myd cerddoriaeth newydd y Deyrnas Unedig.

Bydd y 6 chyfranogwr a ddewisir yn derbyn £500 yr un (ynghyd â chostau teithio o fewn Cymru) i gymryd rhan mewn gweithdai dros gyfnod o 7 mis, gan ddatblygu eu hymarfer mewn un o ddwy ffordd:

  • trac electronig cyfryngau sefydlog gyda pherfformiad ffidil byw

  • prosesu sain byw gyda pherfformiad ffidil byw

Bydd gan yr artistiaid sy’n cymryd rhan brofiad blaenorol o weithio gydag electroneg (ynghyd â chaledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol). Byddwn ni’n darparu meicroffonau, system sain, desg gymysgu a pheiriannydd. Bydd cyfle i recordio ffynonellau yn y gweithdai cynnar a gellid defnyddio’r rhain i ddatblygu traciau electronig.

Ffocws y llwybr yw datblygu sgiliau a rhoi cyfle i brofi ac archwilio. Bydd gweithiau newydd sy’n cael eu creu yn cael eu recordio i’w defnyddio yn yr archif a (lle bo’n briodol) yn cael eu cyhoeddi gan Gyhoeddiadau Tŷ Cerdd.

 

Os gwnewch gais, mae’n rhaid i chi fod ar gael ar gyfer y gweithdai canlynol a’r recordio terfynol, a’r rhain oll yn Stiwdio Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd (yng Nghanolfan Mileniwm Cymru):

  • 1100-1800, dydd Sul 22 Medi – gweithdy #1

  • 1100-1800, dydd Sadwrn 2 Tachwedd – gweithdy #2

  • 1100-1800, dydd Sul 26 Ionawr– gweithdy #3

  • 1100-1800, dydd Sul 16 Mawrth – gweithdy #4

  • 1000-1700, dydd Iau 24 Ebrill – recordio

 

CYFRANOGWYR

Genre cerddorol  Rydym eisiau bod mor agored â phosibl i grewyr cerddoriaeth o amrywiaeth o genres. Efallai eich bod yn gyfansoddwr nodiant, neu’n gweithio â sgôr graffeg; efallai eich bod yn gweithio ym maes byrfyfyr neu gyda thechnegau estynedig; efallai eich bod yn artist electronig sydd ddim yn defnyddio nodiant sy’n awyddus i ddysgu mwy am ysgrifennu ar gyfer offeryn acwstig. Mae’r canlynol yn hanfodol:

  • rhywfaint o brofiad mewn gwaith electronig – y sgiliau a’r offer i greu trac electronig sefydlog neu i brosesu perfformiad byw

  • diddordeb mewn archwilio galluoedd y ffidil

 

Crewyr cerddoriaeth o Gymru  Rydych chi’n gymwys os ydych chi’n creu cerddoriaeth wreiddiol ac rydych chi wedi byw yng Nghymru ers o leiaf blwyddyn, neu wedi cael eich geni yma. Croesewir ceisiadau gan grewyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru a thelir costau teithio artistiaid (o fewn Cymru).

 

Amrywiaeth Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli / sydd wedi’u hanwybyddu neu eu gwahardd o’r gymuned gelfyddydol; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

 

Y Gymraeg   Er mai drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf y bydd y rhaglen, eto rydym yn annog yn gryf i artistiaid sy’n siarad Cymraeg i ymgeisio, a byddwn yn sicrhau bod amser a lle ar gyfer trafodaeth ddwyieithog drwy’r broses. (Mae Angharad Davies yn siarad Cymraeg yn rhugl.)

 

OS OES GENNYCH DDIDDORDEB, ON BOD GENNYCH GWESTIYNAU...

gallwn sgwrsio â chi dros y ffôn neu Zoom. Anfonwch neges ebost atom i drefnu galwad. Rydyn ni eisiau cael gwared ar gynifer o rwystrau ag y gallwn – felly os oes unrhyw beth yr hoffech siarad â ni amdano, rhowch wybod i ni a byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i ateb.

 

I YMGEISIO...

ewch ati i lanlwytho’r wybodaeth ganlynol i’n PORTH:

1. Manylion personol: enw, cyfeiriad ebost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18 oed

2. Eich ymarfer:  Disgrifiwch eich ymarfer; beth ydych chi wedi bod yn fwyaf balch ohono? (Dim mwy na 200 gair)

3. Pam hoffech chi fod yn rhan o’r llwybr hwn? Sut ydych chi’n credu y bydd y llwybr hwn o fudd i’ch ymarfer? Dywedwch wrthym sut y gall y llwybr adeiladu ar eich profiad blaenorol. Beth ydych chi’n gobeithio y bydd cymryd rhan yn ei newid a’i ddatblygu i chi? Dywedwch wrthym am eich profiad mewn gwaith electronig, a sut y gallech fynd ati i weithio gydag electroneg a ffidil byw. (Dim mwy na 750 gair)

4. A oes gennych unrhyw ofynion o ran mynediad? Dywedwch wrthym os oes unrhyw gefnogaeth neu unrhyw amodau sydd eu hangen arnoch i’ch galluogi i gymryd rhan yn y llwybr.

5. Enghreifftiau o’ch gwaith: atodwch 2 ddolen neu atodiad i’ch cerddoriaeth (anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, rhowch wybod i ni.)

Rydym yn croesawu ceisiadau ar fideo a sain hefyd. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2, 3 a 4 uchod (dim hirach na 8 munud o hyd), a lanlwytho’r ddolen i’ch recordiad, gan ychwanegu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 a 5 i’r ffurflen lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, ebostiwch ni i gael help.

 

AMSERLEN A'R BROSES

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1200 ganol dydd ar ddydd Gwener 19 Gorffennaf

Panel: Angharad Davies, Darrah Morgan a Deborah Keyser (Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd)

Byddwn yn rhoi’r gwybod ein penderfyniad i chi erbyn yr wythnos yn dechrau 5 Awst

Angharad Davies

Feiolinydd o Gymru sy’n byw yn Llundain yw Angharad Davies, ac mae’n gweithio ar weithiau byrfyfyr rhydd, cyfansoddiadau a pherfformio.

Mae ei dull o ymdrin â sain yn cynnwys gwrando’n astud ac yna archwilio y tu hwnt i gyfyngiadau sonig ei hofferyn, ei hyfforddiant clasurol a disgwyliadau perfformio.

Mae llawer o’i gwaith yn ymwneud â chydweithio. Mae ganddi ddeuawdau hirsefydlog â Tisha Mukarji, Dominic LashLina Lapelyte ac mae’n chwarae â Common Objects, CrancSkogen. Mae wedi bod yn rhan o brosiectau gyda Tarek Atoui, Tony Conrad, Richard Dawson, Gwenno, Roberta Jean, Jack McNamara, Rie Nakajima, Tim Parkinson, Éliane Radigue, Georgia Ruth JG Thirwell.

Mae’r rhan fwyaf o’i recordiau wedi’u rhyddhau ar Another Timbre, ond mae hi hefyd wedi cyhoeddi gydag Absinth Records, Confront Recordings, Emanem, Potlatch winds measure recordings. Comisiynwyd ei darn cyntaf i gerddorfa gan LCMF yn 2019.

Darragh Morgan

Mae’r feiolinydd o Iwerddon Darragh Morgan wedi ymddangos fel unawdydd a cherddor siambr yn Neuadd Wigmore Hall, Gŵyl Aldeburgh , Maerzmusik Berlin, Gŵyl Gerdd Gyfoes Huddersfield, Proms y BBC, Osterfestival Tirol, Bang on a Can Marathon National Sawdust yn Efrog Newydd, Philips Collection Washington DC, Gŵyl Gerdd Fodern Beijing Chanolfan Celfyddydau Dwyreinol Shanghai. Mae wedi recordio mwy na 75 o albymau, a llawer o’r rhain wedi cael gwobrau Diapason d'Or Gramophone.

Mae Darragh wedi gweithio'n agos gyda chyfansoddwyr amrywiol ar gyfer berfformiadau cyntaf o'u gerddoriaeth; Steve Reich i John Tavener, George Lewis i Michael Finnissy a'r crewyr iau Ann Cleare ac Alex Paxton.

‘Perfformiwr sy’n gatalydd creadigol i gynifer o ddarnau newydd a chynifer o gyfansoddwyr…’ Tom Service, BBC Radio 3

CoDI 24-25 logos.png

Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

bottom of page