top of page
MyC 2025 selection graphic_edited.png

Detholiad Medal y Cyfansoddwr

Yn dilyn galwad agored poblogaidd a chystadleuol iawn, cafodd Jon Guy, Sarah Lianne Lewis ac Owain Gruffudd Roberts eu dethol i weithio gyda Simmy Singh (ffidil), David Shaw (ffidil/fiola), Garwyn Linnell (soddgrwth) a mentor-cyfansoddwr, Pwyll ap Siôn mewn gweithdai dros gyfnod o chwe mis, yn arwain at berfformiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd un o'r tri chyfansoddwr yn derbyn Medal y Cyfansoddwr a gwobr o £750.

Medal y Cyfansoddwr yw prif wobr cyfansoddi cerddoriaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac fe'i chynhelir yn flynyddol. Yn dilyn llwyddiant y bartneriaeth gyda Tŷ Cerdd a Sinfonia Cymru y llynedd, bydd gwaith tri chyfansoddwr yn cael ei berfformio yn Seremoni Medal y Cyfansoddwr ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Wrecsam yr haf hwn. Fel un o brif ddigwyddiadau’r Eisteddfod, cynhelir y seremoni hon ar ddydd Sadwrn, 9 Awst, lle bydd y cyfansoddwr buddugol yn cael eu cyhoeddi a’u dathlu.


Mae’r llwybr yn cael ei rhedeg gan Tŷ Cerdd mewn partneriaeth a’r Eisteddfod Genedlaethol, Sinfonia Cymru, a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru.

Medal y Cyfansoddwr Selection

Following a very popular and competitive open call, Jon Guy, Sarah Lianne Lewis and Owain Gruffudd Roberts have been selected to write for a chamber ensemble from Sinfonia Cymru. They will work with Simmy Singh (violin), David Shaw (violin/viola), Garwyn Linnell (cello) and composer mentor Pwyll ap Siôn in workshops over six months, leading up to a performance at the National Eisteddfod. One of the three composers will be awarded the Medal y Cyfansoddwr and a £750 prize.

Medal y Cyfansoddwr ('The Composer's Medal') is a prestigious flagship music composition prize awarded annually at the National Eisteddfod of Wales. This year, following the success of the partnership with Tŷ Cerdd and Sinfonia Cymru at the 2024 Rhondda Cynon Taf Festival, the compositions written by the composers involved will be performed at the Composer’s Medal Ceremony, held on the main Pavilion stage at the Eisteddfod in Wrecsam. As one of the Eisteddfod's foremost events, the ceremony will take place on Saturday, 9 August, during which the overall winner will be announced and celebrated.

This pathway is delivered by Tŷ Cerdd in partnership with the National Eisteddfod, Sinfonia Cymru and Welsh Music Guild.

Jon Guy

Mae Jon Guy yn gyfansoddwr o Wrecsam gydag ymlyniad cryf i Ogledd Cymru lle cafodd ei fagu ac mae’n parhau i gynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth gyda NEW Sinfonia. Boed yn creu’r straeon a’r gerddoriaeth ar gyfer Slumbersaurus, sef antur gerddorol i blant ifanc, neu’n ysgrifennu croesfannau diwylliannol o ganeuon gwerin Bosniaidd a Chymreig gydag Elvir Solak, neu’n archwilio cysyniadau o olau a thywyllwch gyda’r artist gweledol Ant Dickinson ar gyfer Where Light Meets Dark, mae Jon yn parhau i ysgrifennu ac yn cydweithio â cherddorion sy’n mwynhau estyn ar draws genres i gynhyrchu gweithiau cerddorol arloesol sy’n cysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau newydd. Yn ddiweddar cyflawnodd garreg filltir gyfansoddiadol fawr trwy ysgrifennu ei opera gyntaf, Gresford, Up From Underground, sy'n adrodd stori ddramatig Trychineb Glofaol Gresffordd. Cyd-gomisiynwyd y gwaith hwn gan NEW Sinfonia a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a’i berfformio am y tro cyntaf yn Llanelwy a Wrecsam i nodi 90 mlynedd ers y trychineb ym mis Medi 2024.

Jon Guy

Jon Guy is a composer from Wrexham with a strong attachment to North Wales where he grew up and continues to produce and perform music with NEW Sinfonia. Whether its creating the stories and music for Slumbersaurus, a musical adventure for young children, or writing cultural crossovers of Bosnian and Welsh folk songs with Elvir Solak, or exploring concepts of light and dark with visual artist Ant Dickinson for Where Light meets Dark, Jon continues to find himself writing and collaborating with musicians who enjoy reaching across genres to produce innovative musical works that connect with new audiences and communities. Recently he fulfilled a major compositional milestone by writing his first opera Gresford, Up From Underground, which tells the dramatic story of the Gresford Mining Disaster. This work was co-commissioned by NEW Sinfonia and the North Wales International Music Festival and premiered in September 2024 in both St Asaph and Wrexham to mark the 90th anniversary of the disaster.   

jonguymusic.co.uk

Sarah Lianne Lewis

Mae Sarah Lianne Lewis yn gyfansoddwr o gerddoriaeth glasurol gyfoes feiddgar a llawn dychymyg sy’n cymylu’r ffin rhwng sain acwstig ac electronig. Disgrifiwyd ei cherddoriaeth i fod yn ‘dawel a thyner’ ac ‘yn llawn o seiniau dychmygus’, wrth iddi archwilio cymhlethdodau cynnil saernïaeth, gan ymsysylltu â chynulleidfaoedd mewn seinweddau unigryw ac awyrgylchoedd sonig. Mae hi’n aml yn ysgrifennau am berthynas, newid hinsawdd a'r byd naturiol, wedi'i lywio gan bersbectif benywaidd, anabl.

Roedd Sarah yn Gyfansoddwr Cysylltiedig â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC 2020-2024 ac mae wedi gweithio gydag amrywiaeth o ensembles megis Royal Scottish National Orchestra, Quatuor Bozzini, y Royal Opera House, y soprano Sarah Maria Sun, Blank Space Ensemble, UPROAR ensemble, a'r Nevis Ensemble. Mae ei cherddoriaeth wedi’i chomisiynu gan, ac wedi’i pherfformio mewn, sawl gŵyl gerddoriaeth yn y DU ac Ewrop gan gynnwys Gŵyl Gerdd y Bont-faen, Gŵyl Heidelberg, ‘Les Musiques’ CNCM gmem, Festival d’Aix-en-Provence, Gŵyl Archipel, a Gŵyl Lucerne.

Sarah Lianne Lewis

Sarah Lianne Lewis is a composer of bold and imaginative contemporary classical music that blurs the boundary between acoustic and electronic sound. Described as “quiet and delicate” and “full of imaginative sonorities", her music explores subtle intricacies of texture, engaging audiences in unique soundscapes and sonic atmospheres.  She often writes about connection, climate change and the natural world, informed by a female disabled perspective.

Sarah was Composer Affiliate with the BBC National Orchestra of Wales 2020-2024 and has worked with a range of ensembles such as the Royal Scottish National Orchestra, Quatuor Bozzini, the Royal Opera House, soprano Sarah Maria Sun, Blank Space Ensemble, UPROAR ensemble, and Nevis Ensemble.  Her music has been commissioned by and performed in several UK and European music festivals including the Cowbridge Music Festival, Heidelberg Festival, CNCM gmem’s ‘Les Musiques’, Festival d’Aix-en-Provence, Archipel Festival, and the Lucerne Festival.

​​sarahliannelewis.com

Owain Gruffudd Roberts

Mae Owain Gruffudd Roberts, sy’n wreiddiol o Fangor, yn gweithio fel cyfansoddwr lawrydd ac yn byw ym Manceinion. Mae ei gerddoriaeth wedi ei ddefnyddio ar BBC2, S4C a BBC Radio 4 ac mae yn gweithio’n rheolaidd yn trefnu cerddoriaeth i grwpiau, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a cherddorfa’r Welsh Pops. Bu iddo ddechrau ei yrfa gerddorol ym myd y bandiau pres ac mae nawr yn cynhyrchu cerddoriaeth o dan yr enw Band Pres Llareggub. Mae cerddoriaeth y band yn gymysgedd o Jazz draddodiadol a cherddoriaeth pop fodern ac mae’r band wedi rhyddhau pedair record ers sefydlu yn 2015. 

Owain Gruffudd Roberts is a freelance composer based in Manchester. His music has been featured on television and radio and he regularly arranges for and directs professional orchestras, including the BBC National Orchestra of Wales and the Welsh Pops Orchestra. He started his musical education in the world of brass bands and now runs his own band – Llareggub Brass Band. The Band’s music is a mixture of traditional jazz and modern pop music and the group have released four albums since starting in 2015. 

​​

owain-gruffudd.com

Owain Gruffudd Roberts
Medal y Cyfansoddwr logo strip copy.png
bottom of page