Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Dafydd Bullock 1953
Cafodd Dafydd Bullock ei eni yn 1953 yn Llanberis. Mae'n gyfansoddwr, arweinydd, trefnydd ac athro a raddiodd mewn Cerddoriaeth (Prifysgol Manceinion a'r Royal Northern College of Music - Maestro George Hadjinikos) cyn dilyn Gradd Feistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol. Yn 1993 a 1994 enillodd wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol ac yn 1995 cafodd ei urddo â'r Wisg Wen gan Orsedd y Beirdd. Fe'i gwnaed yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (FRSA) yn 2005.
Ymhlith ei gyfansoddiadau y mae 32 symffoni, cylch o 18 cerdd symffonig, 2 opera, 2 Offeren dros y Meirw, 2 osodiad ar gyfer Offeren, Missa Brevis, oratorio, 33 pedwarawd llinynnol a cherddoriaeth siambr arall a llawer o ganeuon a darnau ar gyfer y piano.
Cyhoeddwyd gweithiau ganddo yng ngwledydd Prydain, yng Ngwlad Belg g yn Lwcsembwrg ac yn yr Unol Daleithiau. Hyd yma y mae wedi gwneud 42 o gryno-ddisgiau. Cafodd ei gerddoriaeth ei pherfformio a'i darlledu mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Japan, China, Brasil a Cholombia yn ogystal â llawer yn Ewrop.
Dafydd Bullock was born in 1953 in Llanberis. A composer, conductor, arranger and teacher, he graduated in Music (University of Manchester and the Royal Northern College of Music, 1971 - 1976) and took a Master's Degree in International Relations (University of Sussex, 1981 - 1983). In 1993 and 1994 he won first prizes at the National Eisteddfod of Wales, and in 1995 he was honoured by admission to the highest Order of the Gorsedd of Bards.
His compositions include 32 symphonies, a cycle of 18 symphonic poems, 2 operas, 2 Requiems, 2 Mass settings, a Missa Brevis, an oratorio, 33 string quartets, 9 Trios and other chamber music and many songs and pieces for piano.
He is published in the British Isles, Belgium, USA and Luxembourg. He has made 42 CDs. His music has been performed in many countries, including Japan, China, Brazil and Colombia and widely within Europe.