top of page
CyM William Mathias_edited.png

William Mathias yn 90

gan Rhiannon Mathias

Mae William Mathias yn un o brif gyfansoddwyr yr ugeinfed ganrif. Ganed yn Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, ar 1 Tachwedd 1934, gwasanaethodd fel Athro Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor o 1970-88 ac ef hefyd oedd Cyfarwyddwr Artistig sefydlu Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, a gynhelir yn flynyddol ers 1972 yn Llanelwy, Sir Ddinbych. Enwir y ganolfan gerdd arbenigol, Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon (a sefydlwyd, 1999), ar ei ôl.

Mae gan gerddoriaeth Mathias arddull bersonol y gellir ei hadnabod yn syth ac sy’n cyfathrebu â chynulleidfaoedd ledled y byd. Mae ei gyfansoddiadau yn cwmpasu ystod rhyfeddol o eang, ac yn cynnwys tair symffoni, un ar ddeg concerto, cerddoriaeth siambr, cerddoriaeth gorawl ac opera, The Servants (1980). Ei Laudi ar gyfer cerddorfa (1973) oedd y darn cyfoes a berfformiwyd amlaf gan gyfansoddwr Prydeinig byw yn ystod y 1970au, a chyfansoddwyd ei anthem Let the People Praise Thee, O God yn arbennig ar gyfer priodas Ei Uchelder Brenhinol Charles, Tywysog Cymru a’r Fonesig Diana Spencer yn 1981.

Derbyniodd Mathias gydnabyddiaeth fyd-eang am ei gyfraniadau i gerddoriaeth yn ystod ei oes, gan gynnwys D. Mus o Brifysgol Cymru (1966), CBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 1985, a D.Mus o Goleg Côr Westminster, Princeton (1987). Mae ei gerddoriaeth yn cynrychioli celfyddyd a diwylliant Cymru ar ei orau ac mae’n parhau i ysbrydoli cenedlaethau newydd o bobl sy’n hoff o gerddoriaeth ledled y byd heddiw.

Cerddoriaeth William Mathias  

Rhiannon Mathias yn dewis traciau sy’n darlunio ehangder ac amrywiaeth rhyfeddol cyfansoddiadau ei thad yn y  nodwedd arbennig hon

bottom of page