top of page
CotM TT no portrait CYM.jpg

Thomas Tomkins 1572-1656

​Cyfansoddwr mawr cyntaf Cymru a ffigwr blaenllaw ym myd cerddoriaeth y Tuduriaid a’r Stiwartiaid

Blynyddoedd cynnar

Yn fab i'r organydd a'r ficer corawl Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ganed Thomas Tomkins yn Nhyddewi, Sir Benfro yn 1572. Ychydig a wyddys am ei fywyd cynnar ond erbyn 1594 roedd y teulu wedi symud i Gaerloyw lle penodwyd ei dad yn ganon yn eglwys gadeiriol y ddinas.

Credir gaeth Tomkins ei anfon i astudio o dan y cyfansoddwr hynod ddylanwadol William Byrd ar ryw adeg yn y 1590au. Byrd oedd yn gyfrifol yn ddiweddarach am ddod o hyd i rôl iddo fel canwr yng nghôr y Capel Brenhinol.

Cyn hynny penodwyd Tomkins fel organydd yng Nghadeirlan Caerwrangon ym 1596 ac yn ddiweddarach bu’n goruchwylio’r gwaith o adeiladu organ odidog newydd gan adeiladwr organau blaenaf y cyfnod, Thomas Dallam.

Penodiadau brenhinol

Arweiniodd enw da cynyddol Tomkins at ei benodi’n ‘Gentleman Extraordinary of the Chapel Royal’ tua 1603 ac yn ddiweddarach fe’i dyrchafwyd yn ‘Gentleman Ordinary’ ac yn organydd dan ei gyfaill, Orlando Gibbons a oedd yn uwch organydd y Capel. Roedd dyletswyddau'r swydd yn golygu cymudiad rheolaidd o Gaerwrangon i Lundain tan 1639.​

Gyda marwolaeth Iago I ym 1625, bu'n ofynnol i Tomkins, ochr yn ochr â'i gyd-Fonheddwyr y Capel Brenhinol, ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer angladd y Brenin ac ar gyfer coroni ei olynydd, Siarl I. Tomkins ysgrifennodd y mwyafrif o'r wyth anthem a ganwyd yn y seremoni.

 

Ym 1628 enwyd Tomkins yn ‘Composer of the King's Music in Ordinary’, yr anrhydedd uchaf a roddwyd i gerddor o Loegr. Fodd bynnag, di-rymwyd hyn yn fuan pan benderfynwyd bod y swydd wedi'i haddo i fab y cyfansoddwr blaenorol.

Amseroedd cythryblus

Roedd y rhwystr hwn yn un o lawer a ddioddefodd Tomkins yn ystod ei yrfa ddiweddarach ac roedd ei 14 mlynedd olaf yn arbennig o gythryblus. Bu farw gwraig Tomkins, Alice, ym 1642, yn yr un flwyddyn ag y dechreuodd Rhyfel Cartref Lloegr. Yn gynnar yn y gwrthdaro dinistriwyd Eglwys Gadeiriol Caerwrangon gan luoedd y Senedd a difrodwyd ei organ yn ddifrifol. Y flwyddyn nesaf, cafodd tŷ Tomkins ei daro gan ergyd canon a chollwyd llawer o’i eiddo personol gan gynnwys sawl llawysgrif gerddorol.

 

Bu gwarchae ar Gaerwrangon yn 1646, a chaewyd ei Chadeirlan. O ganlyniad, trodd Tomkins ei sylw at gerddoriaeth offerynnol ac yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennodd rai o'i weithiau bysellfwrdd a chonsort. Y mwyaf blaenllaw yn eu plith oedd ei Sad Pavan: for these distracted times a ysgrifennwyd yn 1649 i nodi dienyddiad ei annwyl frenin Siarl I.

 

Wedi iddo gael ei amddifadu o incwm, treuliodd Tomkins weddill ei flynyddoedd yn nhŷ ei fab Nathaniel yn Martin Hussingtree gerllaw, a bu farw yno ym 1656.

Etifeddiaeth gerddorol

Dylanwadwyd ei athro William Byrd yn gryf ar arddull gerddorol Thomas Tomkins, ac osgowyd dylanwadau’r Baróc a oedd wedi ennill ffafr yn Lloegr y Stiwartiaid. O ganlyniad, ystyrid ei gerddoriaeth braidd yn geidwadol ac mor hwyr â'r 1630au parhaodd Tomkins i ysgrifennu mewn arddull polyffonig gyfoethog a oedd yn tarddu'n ôl i'r Dadeni.

Roedd Tomkins yn gyfansoddwr toreithiog o gerddoriaeth litwrgaidd a chynhyrchodd fwy na 100 o anthemau a gwasanaethau penillion. Mae ei gerddoriaeth leisiol seciwlar yn cynnwys Songs of 3,4,5 and 6 parts (1622) – sy’n cynnig compendiwm o arddulliau gan gynnwys cansonets, dawnsio bale a madrigalau – a Fauns and Satyrs Tripping a gynhwyswyd yn The Triumphs of Oriana gan Thomas Morley ym 1601. Mae madrigalau Tomkins yn fynegiannol iawn ac yn nodweddu peintio geiriau a chromatigiaeth a ystyrir yn gyfartal i madrigalwyr Eidalaidd megis Luca Marenzio a Luzzasco Luzzaschi.

Mae allbwn Tomkins hefyd yn cynnwys 70 o weithiau bysellfwrdd ar gyfer yr organ, y virginal a’r harpsicord a llawer iawn o gerddoriaeth gonsort gan gynnwys ffantasias a pavanau.

Darllen pellach

Stephen D. Tuttle: Thomas Tomkins: Keyboard Music (Stainer & Bell, Llundain 1973)


Anthony Boden: Thomas Tomkins: The Last Elizabethan (Ashgate Publishing 2005)

 

John Irving: The Instrumental Music of Thomas Tomkins, 1572–1656 (Garland Publishing, Efrog Newydd 1989)

GWAITH DETHOLEDIG

When David Heard – gosodiad teimladwy o alarnad y Brenin Dafydd o’r Beibl, mae’n debyg mai hon yw ei anthem fwyaf adnabyddus ac fe’i cydnabyddir fel un o’r enghreifftiau gorau o gyfansoddiadau diwedd y Dadeni.

Sad Pavan: for these distracted times – yn frenhinwr o hyd, ysgrifennodd Tomkins y darn hwn o fysellfwrdd ychydig ddyddiau ar ôl dienyddio Siarl I.

Third Service - a adwaenir hefyd fel 'The Great Service' gan iddo gael ei ddylanwadu’n drwm gan waith Byrd ei hun o’r un enw.

The Fauns and Satyrs Tripping – madrigal 5-rhan a gyhoeddwyd yn The Triumphs of Oriana.

O God the Proud are Risen Against Me – anthem sy'n cwmpasu polyffoni wyth rhan drwodd i'r paentiad geiriau mwyaf cain.

The Lady Folliot’s Galliard – roedd y ddawns hon yn un o’r darnau olaf a gyfansoddodd Tomkins ac fe’i cysegrwyd i’w fab- a’i ferch-yng-nghyfraith yn diolch am ofalu amdano yn ei henaint.

St David's Cathedral.jpg

Roedd Thomas Tomkins yn fab i organydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Thomas Tomkins.

DYNASTY GERDDOROL

Roedd Thomas Tomkins yn aelod o deulu cerddorol mawr a phwysig:​

Thomas Tomkins (tad), dyddiadau anhysbys – ficer corawl Eglwys Gadeiriol Tyddewi.​

John Tomkins (hanner brawd), 1586-1638 – organydd yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt, Gentlemen Extraordinary of the Chapel Royal a chyfansoddwr.

Giles Tomkins (hanner brawd), ar ôl 1587-1668   – ‘Musician for the Virginals in the King’s Musick’, organydd y Capel Brenhinol a chyfansoddwr.

Robert Tomkins (hanner brawd), dyddiadau anhysbys – cerddor llys a chyfansoddwr.

Nathaniel Tomkins (mab), 1599-1681 – canon yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon. Yn gerddor medrus, bu’n gyfrifol am gyhoeddi llawer o weithiau Thomas Tomkins ar ôl ei farwolaeth.

civil war.jpg

Cafodd blynyddoedd olaf Tomkins eu creithio gan erchyllterau Rhyfel Cartref Lloegr.

AMSERLEN

1572 Ganed yn Nhyddewi, Sir Benfro.

1590s Astudiaethau gyda William Byrd. Dod yn gôr yn y Capel Brenhinol.

1596 Penodi Organydd Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.

1603 Penodi 'Gentleman Extraordinary of the Chapel Royal'.

1607 Yn ennill BMus o Goleg Magdalen, Rhydychen.

1612 Goruchwylio adeiladu organ newydd Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.

1621 Dod yn 'Gentleman Ordinary of the Chapel Royal'.

1625 Yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer angladd Iago I ac yn ysgrifennu llawer o'r anthemau a berfformiwyd adeg coroni Siarl I.

1628 Enwyd ‘Composer of the King's Music in Ordinary’.

1642 Marw ei wraig Alice; Dechrau Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr sy'n arwain at ymosodiad ar Gadeirlan Caerwrangon a difrod i dŷ Tomkins.

1646 Gwarchae Caerwrangon yn achosi cau ei Chadeirlan.

1649 Yn ysgrifennu Sad Pavan: for these distracted times er cof am Siarl I a ddienyddiwyd yn ddiweddar.

1656 Yn marw yn Martin Hussingtree, ger Caerwrangon.

bottom of page