top of page
CyM Rhian Samuel rectangle copy_edited.png

Wedi’i geni i deulu Cymraeg yn Aberdâr ym 1944, mae Rhian Samuel wedi treulio ei bywyd gwaith fel cyfansoddwr, llenor ac academydd ym Mhrydain ac yr UDA. Bellach wedi ei lleoli yn Aberdyfi, mae hi'r un mor brysur ag erioed, gyda pherfformiadau diweddar yng Ngwyliau Llanandras a Machynlleth, cyhoeddiadau newydd gan Stainer & Bell a Tŷ Cerdd a recordiadau CD ar Lorelt a Willowhayne Records. Ym mis Hydref hi oedd testun rhaglen ‘Composer of the Week’ ar BBC R3 a’r mis hwn bydd ei phenblwydd yn 80 yn cael ei ddathlu yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt gyda pherfformiadau o’i cherddoriaeth (gwelwch y ddolen isod).

Mewn proffesiwn sy’n parhau i gael ei ddominyddu gan ddynion, mae Rhian wedi bod yn llais cryf ac effeithiol yn y frwydr hir am gyfle cyfartal a chydnabyddiaeth i gerddorion a chyfansoddwyr benywaidd a hi yw cyd-olygydd y New Grove/Norton Dictionary of Women Composers (1994). Fodd bynnag, nid yw'n cyfyngu ei hun i astudio gweithiau merched; mewn gwirionedd, mae ei hysgrifau helaethaf wedi bod ar operâu Harrison Birtwistle, a gyflawnwyd ar wahoddiad y cyfansoddwr.

Mae Rhian wedi’i swyno gan gerddoriaeth glasurol o bob arddull, yn enwedig repertoire Americanaidd a cherddoriaeth gynnar (astudiaeth o gerddoriaeth leisiol yr 16eg ganrif oedd ei PhD). Dylanwadir ei cherddoriaeth gan ei threftadaeth lenyddol a cherddorol Gymreig gyfoethog, tirwedd ei chartref presennol yng nghanolbarth Cymru, yr amser a dreuliodd yn yr Unol Daleithiau a chan lawer o’r artistiaid blaenllaw y mae hi wedi cydweithio â.

Mae hi wedi cynhyrchu catalog amrywiol a helaeth o gerddoriaeth gerddorfaol, siambr, lleisiol a chorawl sy’n cynnwys dros 140 o weithiau cyhoeddedig. Ymhlith ei darnau ar raddfa fawr mae Elegy-Symphony, a berfformiwyd am y tro cyntaf ym 1981 gan Gerddorfa Symffoni St Louis dan Leonard Slatkin; Clytemnestra ar gyfer soprano a cherddorfa, y cafodd recordiad 2020 ohono ei gynnwys ar restr fer Gwobr Gramophone; a Tirluniau / Landscapes a berfformiwyd yn Proms y BBC 2000 gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gyda Tadaaki Otaka. Mae Rhian wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o gantorion unawdol enwog gyda cherddorfa, piano neu ensemble siambr ac mae ganddi 20 cylch o ganeuon i’w henw, ynghyd â nifer o weithiau i gôr fel Love bade me welcome a recordiwyd ar gryno ddisg gan Gôr y Coleg Newydd, Rhydychen.

Mae Rhian wedi derbyn nifer o wobrau rhyngwladol gan gynnwys y wobr gyntaf yng Ngŵyl Greenwich 1979, Gwobr ASCAP-Rudolph Nissim yn 1983 ac yn fwy diweddar enillodd Fedal Glyndŵr am wasanaethau i’r Celfyddydau yng Nghymru.

Mae Rhian Samuel yn dewis darnau sy’n rhoi cyflwyniad i’w cherddoriaeth:
▶ Rhian Samuel in Five (or Six) Pieces

▶ Coleg y Drindod, Caergrawnt yn dathlu penblwydd Rhian Samuel

▶ rhiansamuel.com

Cyhoeddiadau Rhian Samuel gan Stainer & Bell 

 

▶ Rhian Samuel yn Tŷ Cerdd Shop

▶ Traciau Rhian Samuel ar Spotify

bottom of page