Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Menter Celfyddydau ac Iechyd yn comisiynu carfan o artistiaid i wneud gosodiadau cerddoriaeth a sain bwrpasol ar gyfer y capel aml-ffydd yn Ysbyty Prifysgol Grange yn Llanfrechfa. Ariannwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mewn cydweithrediad â Studio Response.
Delyth & Angharad Jenkins
Cynefin
Dechreuodd y ddeuawd o fam a merch o Abertawe, Delyth (telyn) ac Angharad (ffidl) berfformio gyda’i gilydd yn 2007. Fe’u hadwaenir yn bennaf am chwarae a chyfansoddi cerddoriaeth yn yr idiom draddodiadol, ac ar wahân maent wedi bod ar y blaen ym myd cerddoriaeth werin yng Nghymru drwy fandiau fel Calan ac Aberjaber, ynghyd â pherfformio’n rhyngwladol fel unawdwyr. Maent wedi recordio albymau stiwdio, wedi perfformio’n eang yn fyw ac mewn darllediadau niferus ar y radio (gan gynnwys BBC Radio 2, 3 a 6 Music). https://www.dna-folk.co.uk/
Gwrandewch ar 'Cynefin'...
Cynefin – nodyn cyfansoddwr
Cynefin, gair sydd ag amryw o ystyron fel cartref arferol i anifeiliaid, planhigion neu bobl, rhywle lle mae popeth o’ch cwmpas yn teimlo’n iawn ac yn groesawus. Mae’r darn yma o gerddoriaeth wedi’i wreiddio yn yr ardal o gwmpas yr ysbyty hwn, yr ardal sy’n dod o dan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Roedden ni wrth ein boddau cael help y côr lleol, Côr Aduniad, a fu’n ddigon bodlon ymateb i her ei recordio gartref (angenrheidiol oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws oedd yn eu lle ar y pryd) gan ddarparu llinellau lleisiol i’n darn.
Gellir clywed synau byd natur a recordiwyd yn ardal Llandogo a ger Ffrydiau Cleddon fel cefnlen i’r darn. Gallwch glywed synau adar a dŵr rhedegog a wnaethon ni eu recordio ger Ffrydiau Cleddon yn agos i Landogo ac mae sŵn trenau a chyhoeddiadau platfform i gyd yn helpu i’n gwreiddio yn ein cynefin. Mi wnaethon ni gynnwys recordiad o archif y GIG yn 70: mae Ruth Edwards oedd yn gweithio mewn labordy iechyd cyhoeddus ym 1948 yn cofio cyfarfod ag Aneurin Bevan a gofyn iddo am ei lofnod pan ymwelodd ag Ysbyty Maenor Llanfrechfa yn nyddiau cynnar y GIG.
​
Mae’r gerddoriaeth yn llifo, gyda strwythurau harmonig cyfoethog yn cael eu chwarae ar y delyn. A hwythau’n gwneud ioga, mae’r pâr yn ymwybodol iawn o effeithiau tawelu ac iachau hymian. Recordiwyd synau hymian gan Gôr Aduniad wedi’u seilio ar y blociau o strwythur harmonig a gyfansoddwyd gan Delyth a dyma sy’n ffurfio sylfaen y darn. Wedi’i blethu i’r defnydd harmonig yma, mae’r côr yn canu motiff o’r gân draddodiadol adnabyddus, Ar Hyd y Nos. Mae hon yn cael ei thynnu a’i hestyn yn electronig yn y fath ffordd nes iddi gael ei thrawsffurfio’n eigion o donnau ac adleisiau etheraidd, sy’n cludo’r gwrandäwr i hafan ryddhaol a thangnefeddus.
Delyth ac Angharad yn cerdded ar draws Llandogo
Map rhwydwaith Trafnidiaeth i Gymru
Angharad yn recordio yn y coed
Byddwch hefyd yn clywed Angharad yn chwarae ei Jig Maenor Llanfrechfa ar y ffidl, gan gyfleu teimlad o ysgafnder a llawenydd. Gallai’r jig gael ei chwarae ar unrhyw offeryn a’i defnyddio i gyfeilio dawnsio. Mae Angharad wedi’i nodiannu ac mae ar gael i eraill ei defnyddio a’i chwarae fel gwaddol i’r prosiect.
Ymunodd Delyth ac Angharad â ni yn y stiwdio i gael sgwrs am sut dechreuon nhw ar y prosiect a sut roedd rhwystrau Covid yn cyflwyno heriau wrth greu'r gwaith.