Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Rhwydwaith ledled Cymru o artistiaid sain a chrewyr cerddoriaeth arbrofol sy'n gweithio ym maes gwaith byrfyfyr, celf sain, sŵn, drôn, cymysgu dim mewnbwn neu unrhyw arfer anghonfensiynol neu avant-garde arall yw CoDi Dan-Ddaear. Mae'n cynnal cronfa ddata o artistiaid arbrofol, yn cynnal sgyrsiau a gweminarau ar-lein rheolaidd ac ar hyn o bryd mae'n datblygu cyfres o bodlediadau.
Digwyddiad cymdeithasol ar-lein misol ar gyfer artistiaid sain arbrofol a dan-ddaear. Dydd Iau cyntaf pob mis am 6pm.
CYMUNED
YMUNWCH â'n cymuned Dan-Ddaear i dderbyn y newyddion diweddaraf a gwahoddiadau i’n digwyddiadau.
Mae aelodaeth y rhwydwaith yn rhad ac am ddim. Datblygir y rhwydwaith mewn cydweithrediad â grŵp llywio o ranwyr a churaduron yng Nghymru.
Gwelwch ein rhestr gynyddol o artistiaid avant-garde o Gymru.
ARWYDDWCH i ymuno â’r gronfa ddata artistiaid CoDI Dan-Ddaear.
Mae CoDI Dan-Ddaear yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein am ddim i gefnogi artistiaid i gysylltu ei gilydd, hyrwyddo eu gwaith, rhannu ymarfer a syniadau, a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae siaradwyr gwadd diweddar wedi cynnwys Sarah Angliss, Kathy Hinde, Leafcutter John a Maggie Nicols.
Edrychwch ar y rhestrau diweddaraf i weld digwyddiadau'r gorffennol.
PODLEDIAD
Pennodau 1-4 ar gael nawr
Ariennir CoDI Dan-Ddaear gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad PRS am y flwyddyn hyd at Fawrth 2021; Nod Tŷ Cerdd yw cynnal a datblygu’r rhwydwaith yn dilyn y cyfnod cychwynnol a ariennir.
Mae diogelu eich preifatrwydd yn bwysig i ni yn Nhŷ Cerdd ac rydym wedi ymrwymo i amddiffyn eich gwybodaeth a'ch data personol. Dim ond trwy e-bost y bydd Tŷ Cerdd yn eich cysylltu i ddarparu'r buddion rydych chi wedi cofrestru ar eu cyfer o fod yn rhan o'r cynllun hwn.