top of page

CoDi yw rhaglen datblygu artistiaid Tŷ Cerdd, ac mae wedi bod yn galluogi ac yn cefnogi cyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth yng Nghymru ers 2018, a hynny drwy lwybrau datblygu creadigol sydd â thâl yn ogystal â thrwy weithdai, hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio. Yn ystod y chwe blynedd, rydym wedi gweithio i wella mynediad i’n rhaglenni, i agor ein gwaith i ystod gynyddol o gerddorion, ac i gael gwared ar rwystrau – gan fabwysiadu’r slogan “os ydych chi’n gwneud cerddoriaeth yng Nghymru, mae’n gerddoriaeth Gymreig! ” – a rhannu arfer gorau gyda phartneriaid (er enghraifft rydym yn dilyn Egwyddorion Mynediad Teg Sound and Music).

Rydym wedi bod yn ffodus i gael ein cefnogi i fwrw ymlaen â CoDi trwy gael grantiau prosiect gan ein cyllidwr rheolaidd Cyngor Celfyddydau Cymru, ynghyd â chronfeydd Partneriaid Datblygu Talent Sefydliad y PRS (rydym yn falch o fod yn un o’u partneriaid datblygu ledled y DU) – ac, o 2023 ymlaen, buddsoddiad Sefydliad Jerwood, yn ogystal â chyllidwyr a phartneriaid eraill.

Mae’r holl gefnogaeth hon yn ein galluogi i greu rôl newydd i ddatblygu artistiaid yn ein tîm. Mae’n amser cyffrous i ymuno â’r sefydliad wrth lunio rhaglenni gydag artistiaid a phartneriaid.

Rydym wedi lansio CoDi 2024/25 yn ddiweddar sy’n cynnwys llwybrau cyflogedig, dan arweiniad artistiaid, ochr yn ochr â RHYNGWEITHIO, cyfres o weithdai a hyfforddiant.

Darllenwch am brosiectau'r gorffennol yn ein harchif CoDi.

CoDI 24-25 logos.png
bottom of page