Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Dyfarniadau ar gyfer tair partneriaeth cyfansoddwr/cymdeithas gerdd
Pleser o’r mwyaf i DÅ· Cerdd yw cyhoeddi enwau’r partneriaethau cyfansoddwr/cymdeithas sydd wedi’u dewis ar gyfer cynllun BYDIS CoDI. Yn rhan o fenter datblygu cyfansoddwyr TÅ· Cerdd, mae’r cynllun hwn yn paru cyfansoddwyr Cymreig â gwneuthurwyr cerddoriaeth nad ydynt yn broffesiynol o ledled y wlad mewn cyfres o brosiectau a fwriedir i greu gweithiau newydd a ffurfio cysylltiadau rhwng crewyr a chymunedau lleol.
​
​Y tair partneriaeth yw:
Gareth Churchill a Chorws Dynion Hoyw De Cymru — yn datblygu prosiect sy’n gweithio tuag at ddarn perfformio ‘dogfen-gerdd’ sy’n croesi genres. Drwy edrych ar elfennau o destun llafar, lleisiol ac sy’n cael ei gyflwyno’n theatraidd ochr yn ochr â gweadau offerynnol a lleisiol mwy traddodiadol bydd y prosiect yn gweithio tuag at greu sylwebaeth hynod bersonol ar fywyd hoyw cyfoes yn ne Cymru.
​
Carlijn Metselaar a Chantorion Cymunedol Ffynnon Taf — yn cydweithio i greu darn siriol a hwyliog am y Côr a’i gymuned. Bydd yr aelodau’n cymryd rhan mewn sesiynau byrfyfyrio gan greu geiriau a deunydd cerdd a fydd yn ffurfio rhan o ddarn i gôr tair rhan a phiano i’w berfformio yn Taff Fest ym mis Gorffennaf 2020.
Owain Roberts a Band Pres Ysgol Syr Hugh Owen — yn datblygu gwaith newydd drwy gyfres o weithdai ac ymarferiadau. Yn ysbrydoli’r myfyrwyr gyda deunydd ffres a gwreiddiol gan eu hannog i arbrofi ac ystyried gwahanol dechnegau chwarae a dulliau perfformio.