Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Cafodd chwe chrewr cerdd - Amy Sterly, Emma Daman Thomas, Fern Thomas, Francesca Simmons, Simon Proffitt a Stephen Black - l eu dewis ar gyfer CoDI Arbrofol. Yn arwain y chwe artist dethol drwy’r broses oedd: Angharad Davies (feiolín), Rhodri Davies (telyn ac electroneg) a Siwan Rhys (piano), sy’n ffurfio cydweithfa artistig yn arbennig ar gyfer y prosiect yma. Artistiaid arbrofol blaenllaw yw’r tri y mae eu gyrfaoedd wedi coleddu ystod o gerddoriaeth avant-garde, gan gynnwys byrfyfyrio, dulliau newydd o nodiant, dehongli sgoriau testun a graffeg, electroneg fyw a chelfyddyd berfformio.
Gan weithio o gasgliad archifau Tŷ Cerdd, roedd y gydweithfa’n creu deunydd crai i’r chwe chyfansoddwr ymateb iddynt/eu defnyddio yn ystod y broses greu. Drwy gyfres o weithdai, datblygwyd gweithiau newydd gan arwain yn y pen draw at berfformiad yn Eglwys Sant Edward (Caerdydd) ym mis Mai 2021.
Ochr yn ochr â diddordeb amlwg mewn / profiad o weithio mewn ffyrdd arbrofol, dangosodd yr ymarferwyr llwyddiannus ymgysylltiad â threftadaeth diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Siaradwyr Cymraeg oedd pob aelod o’r gydweithfa a chynhelir gweithgareddau’r llwybr hwn yn ddwyieithog.
Tŷ Cerdd is a PRS Foundation Talent Development Partner in association with Youth Music