top of page

Datblygiad Artist
Artist Development

CoDI

Ein rhaglen datblygu artistiaid sy wedi bod yn galluogi ac yn cefnogi cyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth yng Nghymru ers 2018, a hynny drwy lwybrau datblygu creadigol sydd â thâl yn ogystal â thrwy weithdai, hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio.


Our artist-development programme which has been enabling and supporting composers and music-creators in Wales through paid creative development pathways, workshops, training and networking opportunities since 2018.

Cerddoriaetath a Hil yng Nghymru / Music & Race in Wales

Rydym yn ymrwymedig i ddwyn y sbotolau ar artistiaid Cymreig o liw o bob cwr o’r wlad a’u grymuso drwy bob cyfnod o’u gyrfaoedd. O dan ambarél Cerddoriaeth a Hil yng Nghymru, rydym yn sbarduno strategaeth i sicrhau bod artistiaid o liw yn cael eu cynrychioli, eu cynnwys a’u cefnogi ar draws ein rhaglen.

We are committed to bringing the spotlight Welsh artists of colour from across the nation, and empowering them through all stages of their career. Under the umbrella of 'Music and Race in Wales' we are driving forward a strategy to ensure that artists of colour are represented, included and supported across our programme.

Diwydiant Cerdd 101 / Music Industry 101

Cyfres sy'n anelu at agor y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru — gyda chyfeirio, cyngor ar lwybrau dilyniant, ac awgrymiadau gan weithwyr proffesiynol. 

An ongoing series aiming to open up the music industry in Wales – with signposting, advice on progression routes, and tips from professionals. 

▶ Rhyngweithio / Interact

Mae rhyngweithio wrth wraidd CoDI – mae cyfres o weithdai a sesiynau rhwydweithio ledled Cymru yn ategu hyb ar-lein.

Interact sits at the heart of CoDI – an online hub is complemented by a series of workshops and networking sessions around Wales.

▶ Ffidil +   

Llwybr datblygu taledig mewn ysgrifennu ar gyfer ffidil ac electroneg. 

A paid development pathway in writing for violin and electronics.

▶ Tuag Opera

Mae crewyr cerddoriaeth ac awduron ar ddechrau eu gyrfa yn archwilio a chreu moment o opera gyda’i gilydd yn yr iaith Gymraeg.

Early-career music-creators and  writers explore and create a moment of opera together in the Welsh-language.

▶ Medal y Cyfansoddwr

Llwybr sy’n cynnig cyfle â thâl i dri chrëwr cerddoriaeth i gyfansoddi ar gyfer ensemble o Sinfonia Cymru.

A pathway offering three composers a paid opportunity to write for an ensemble from Sinfonia Cymru.

▶ BŴM

Llwybr ar gyfer artistiaid ar ddechrau eu gyrfa iddynt greu cerddoriaeth a sain awyr agored sy’n ymateb i themâu’r argyfwng hinsawdd.

A pathway for early-career artists in making outdoor music and sound that responds to themes of climate crisis.

▶ Bwthyn Sonig

Prosiect yn weithio gyda, a galluogi, crewyr cerddoriaeth ag anabledd dysgu.

Project working with and enabling learning-disabled music-creators.

▶ Dan-Ddaear / Off-Grid

Rhwydwaith o artistiaid sain a chrewyr cerddoriaeth arbrofol. Mae'n cynnal cronfa ddata o artistiaid arbrofol, yn cynnal sgyrsiau a gweminarau ar-lein rheolaidd ac ar hyn o bryd mae'n datblygu cyfres o bodlediadau.

Network of experimental sound-artists and music creators. It hosts a database of experimental artists, holds regular online talks and webinars and is currently developing a series of podcasts.

Cyfleon / Opportunities

Galwadau diweddaraf am gyfansoddwyr, crewyr cerddoriaeth ac artistiaid sain.

The latest calls for composers, music-creators and sound artists.​​

 

bottom of page