Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Bursaries available for Classical:NEXT, Berlin, 12-15 May 2025
Classical:NEXT is the global networking and exchange hub dedicated exclusively to classical and art music, for all professionals – artists, managers, presenters, orchestras, labels, educators, press, media, publishers and more. The event includes an interactive conference, project pitches, showcase concerts, expo, and networking. By taking part in Classical:NEXT, you join over 1,000 professionals from more than 45 countries from around the world.
The event takes place this year in Berlin from 12 to 15 May, and Tŷ Cerdd (with support from Wales Arts International) is offering a number of bursaries to support attendance as delegates.
Tŷ Cerdd (Music Centre Wales) will be managing the Welsh presence at the event – including a Cymru/Wales stand at the expo. Bursary holders will have accommodation and delegate pass booked for them, and will be given some support towards travel-and-subsistence.
For any organisations or individuals wanting to find out more about Classical:NEXT, the opportunities it provides and the bursaries we’re offering, we’re holding a Zoom session on Monday 27 January @ 16:30. We’ll talk about the event, how the delegation will be supported, and there’ll be time for your Q&As.
Register HERE
Application details and deadline
The opportunity is open to organisations and individuals.
To apply please upload the following information to our PORTAL by 10:00 on Tuesday 11 February:
-
Name, address, email address, mobile number, website, social media handles (if you’re applying for an organisation, please complete your organisational details here)
-
If you are an artist: 2 audio/audio-visual links to your music.
-
Short description of your practice/professional work (up to 100 words);
-
Have you attended Classical: NEXT before? If yes, what were the outcomes? (up to 100 words)
-
What would you aims be in attending the 2025 event? (up to 200 words)
NB: Video and audio applications are also welcomed. Record your answers to questions 3, 4 & 5 above (up to 4 minutes’ duration), and upload the information requested in questions 1 & 2 to the upload form. If you need help creating links, email us for help.
Notes to applicants
-
Access and inclusion In line with our commitment to our Cornerstones, we are keen to receive applications from individuals who are under-represented or have faced neglect or exclusion from the arts community. We particularly welcome applications from disabled and neurodiverse people, people who are Black, Asian and from the global majority, LGBTQIA+ people, and people from lower socio-economic backgrounds. If you would like to enquire about or arrange support with applying to this opportunity, please email us.
-
Queries If you have any queries about the bursaries or the event, and want to discuss a potential application please email and we can arrange a conversation.
-
Panel *Details of the panel will be published here soon*
-
Timeline All applicants will be informed of the decisions by w/b Monday 24 February
Bwrsariaethau ar gael ar gyfer Classical:NEXT, Berlin, 12-15 Mai 2025
Classical:NEXT yw’r hwb rhwydweithio a chyfnewid byd-eang sy’n benodol ar gyfer cerddoriaeth glasurol a chelf, i bob gweithiwr proffesiynol – yn artistiaid, rheolwyr, cyflwynwyr, cerddorfeydd, labeli, addysgwyr, y wasg, y cyfryngau, cyhoeddwyr a mwy. Mae’r digwyddiad yn cynnwys cynhadledd ryngweithiol, cyflwyniadau i brosiectau, cyngherddau arddangos, expo, a rhwydweithio. Trwy gymryd rhan yn Classical:NEXT, byddwch yn ymuno â mwy na 1,000 o weithwyr proffesiynol o dros 45 gwlad ledled y byd.
Cynhelir y digwyddiad eleni yn Berlin rhwng 12 a 15 Mai, ac mae Tŷ Cerdd (gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) yn cynnig nifer o fwrsariaethau i gefnogi cynrychiolwyr i’w fynychu.
Bydd Tŷ Cerdd yn rheoli presenoldeb Cymru yn y digwyddiad – gan gynnwys stondin Cymru/Wales yn yr expo. Bydd deiliaid bwrsariaethau yn cael llety a thocyn cynrychiolwyr wedi'i archebu ar eu cyfer, a byddant yn cael rhywfaint o gymorth tuag at deithio a chynhaliaeth.
Os oes unrhyw sefydliad neu unigolyn eisiau gwybod mwy am Classical:NEXT, y cyfleoedd posibl ohono a’r bwrsariaethau rydyn ni’n eu cynnig, yna dewch i’n sesiwn Zoom ar ddydd Llun 27 Ionawr @ 16:30. Byddwn yn siarad am y digwyddiad, sut y fydd y ddirprwyaeth yn cael ei gefnogi, a bydd amser i chi ofyn cwestiynau. Cofrestrwch YMA
Manylion ymgeisio a dyddiad cau
Mae’r cyfle hwn yn agored i sefydliadau ac unigolion
I ymgeisio, lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n PORTH erbyn 10:00 ddydd Mawrth 11 Chwefror:
-
Enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, gwefan, dolenni i gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol (os ydych yn gwneud cais dros sefydliad, rhowch fanylion eich sefydliad yma)
-
Os ydych yn artist: anfonwch 2 ddolen at sain/fideo o’ch cerddoriaeth.
-
Rhowch ddisgrifiad byr o’ch ymarfer/gwaith proffesiynol (hyd at 100 gair)
-
Ydych chi wedi mynychu Classical: NEXT o’r blaen? Os do, beth oedd y canlyniadau? (hyd at 100 gair)
-
Beth fyddai eich amcanion wrth fynychu digwyddiad 2025? (hyd at 200 gair)
Sylwer: Rydym yn croesawu ceisiadau ar fideo a sain hefyd. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 3, 4 a 5 uchod (hyd at 4 munud), a lanlwytho’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 a 2 i’r ffurflen lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolenni, e-bostiwch ni am help.
Nodiadau i ymgeiswyr
-
Mynediad a chynhwysiant Yn unol â’n hymrwymiadau i’n Conglfeini, rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu sydd wedi wynebu esgeulustod neu waharddiad o gymuned y celfyddydau. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl a niwroamrywiol, artistiaid sy’n Ddu, Asiaidd ac o’r mwyafrif byd-eang, pobl LGBTQIA+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. Os hoffech chi ymholi neu drefnu cymorth mynediad i wneud cais am y cyfle hwn, plis ebostiwch ni.
-
Ymholiadau Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y bwrsariaethau neu’r digwyddiad, ac eisiau trafod cais posibl, anfonwch neges ebost a gallwn drefnu sgwrs ffôn.
-
Panel Cyhoeddwyd manylion y panel fan hyn yn fuan.
-
Amserlen Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael gwybod ein penderfyniadau erbyn yr wythnos yn dechrau dydd Llun 24 Chwefror