Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Carlijn Metselaar (1989- )
Cyfansoddwraig o’r Iseldiroedd yw Carlijn Metselaar sy’n byw yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar enillodd Wobr Talent Ifanc gan y Prins Bernhard Cultuurfonds i ddechrau doethuriaeth mewn Cyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd. Astudiodd Carlijn gyfansoddi, cerddoleg ac arwain corawl yn Utrecht yn yr Iseldiroedd. Yn 2017, cwblhaodd radd ôl-raddedig mewn cyfansoddi gyda rhagoriaeth yn CBCDC.
Yn 2016, derbyniodd Carlijn grant cyfansoddi ar gyfer ei hopera ‘Martine&Martinus’ a berfformiwyd yng Nghadeirlan Utrecht. Perfformiwyd ei miniatur cerddorfaol ‘Leap’ gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC fel rhan o Cyfansoddi Cymru. Yn ddiweddar comisiynodd Classical Movements ‘Well, Actually’, cân gabaret am ‘ddynsbonio’ (mansplaining) i Ensemble Lleisiol Olga.
Ymhlith cyfansoddiadau newydd ceir y pumawd pres ‘Roof’ i Academi Pres Siambr Stockholm a chomisiwn i UPROAR, ensemble cerddoriaeth gyfoes newydd Cymru. Mae Carlijn yn cymryd rhan yng Nghynllun Cyfansoddwyr Ifainc yr LPO 2018-2019 dan arweiniad James MacMillan.
Carlijn Metselaar is a Dutch composer based in Cardiff. Her work includes opera, music theatre and ballet as well as music for choirs and chamber ensembles.
She is a participant in the LPO Young Composers Scheme 2018-19, mentored by James MacMillan. She recently composed ‘Octet’ for Berkeley Ensemble as part of Ty Cerdd's CoDI CHAMBER scheme. Her piece 'Night Parade of Monsters' was commissioned by UPROAR: New Music Ensemble, led by Michael Rafferty. Carlijn is currently Composer in Residence with WNO Youth Opera and wrote ‘Blackout’, a short opera for choir, 2 percussion, bass clarinet and piano, performed in April 2019.
Recent compositions include Leap, an orchestral miniature performed by the BBC National Orchestra of Wales. She also wrote 'Well, Actually', a cabaret song about mansplaining commissioned by Musical Movements for Olga Vocal Ensemble.
Her opera 'Martine&Martinus' was performed at the Dom Cathedral of Utrecht in 2016, for which she received a grant from the Dutch Performing Arts Fund.
Carlijn won a Young Talent Award from the Prins Bernhard Cultuurfonds as well as a scholarship for a PhD in Composition at Cardiff University from October 2018.