top of page

Bryceson Treharne
1879-1948

Mwynhaodd y cyfansoddwr, pianydd ac athro Bryceson Treharne fywyd a gyrfa liwgar a aeth ag ef o amgylch y byd. Wedi'i eni ym Merthyr Tudful ym 1879, gwobrwywyd ei ddawn hynod werthfawr ag ysgoloriaeth i fynychu'r Coleg Cerdd Frenhinol yn Llundain yn 16 oed yn unig. Tra yn yr RCM astudiodd gyda Hubert Parry a Charles Villiers Stanford ochr yn ochr â Gustav Holst, John Ireland a Ralph Vaughan Williams. Datblygodd Treharne ei addysg yn Ewrop cyn dechrau ar ei yrfa addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1900. Y flwyddyn ganlynol, hwyliodd Treharne i Awstralia, gan ymuno â'r gyfadran yn yr Elder Conservatorium yn Adelaide lle bu'n perfformio ac yn darlithio.

Dychwelodd Treharne i Ewrop ym 1911 ac yn ystod y Rhyfel Mawr treuliodd flwyddyn mewn gwersyll cadw sifiliaid yn yr Almaen. Ar ôl y rhyfel, symudodd i ogledd America, gan ddysgu ym Mhrifysgol McGill, Montreal, cyn symud i'r Unol Daleithiau lle bu'n gweithio fel golygydd cerdd i gwmni cyhoeddi yn Boston. Ar hyd y cyfnod hwn bu Treharne yn gyfansoddwr gweithgar a daeth rhai o’i unawdau Môr o gân yw Cymru i gyd yn boblogaidd yng Nghymru. Perfformiwyd ei gantata The Banshee yn Eisteddfod Genedlaethol 1938. Bu farw Bryceson Treharne ar 4 Chwefror 1948 yn Long Island, Efrog Newydd.

Bryceson Treharne.jpg
ENG

The composer, pianist and teacher Bryceson Treharne enjoyed a colourful life and career that took him around the globe. Born in Merthyr Tydfil in 1879, his precocious talent was rewarded with a scholarship to attend the Royal College of Music in London aged only 16. While at the RCM he studied with Hubert Parry and Charles Villiers Stanford alongside Gustav Holst, John Ireland and Ralph Vaughan Williams. Treharne furthered his education in Europe before beginning his teaching career at Aberystwyth University in 1900. The following year, Treharne sailed to Australia, joining the faculty at the Elder Conservatorium in Adelaide where he performed and lectured.

 

Treharne returned to Europe in 1911 and during the Great War spent a year in a German civilian detention camp. After the war, he moved to the north America, teaching at McGill University, Montreal, before he moving to the United States where he worked as music editor to a Boston publishing company. Throughout this time Treharne was an active composer and some of his solos Môr o gân yw Cymru i gyd became popular in Wales. His cantata The Banshee was performed in the 1938 National Eeisteddfod. Bryceson Treharne died on 4 February 1948 in Long Island, New York.

bottom of page