top of page
Brian Hughes - Y gerddoriaeth a'm gwnaeth copy_edited.jpg

Cyfansoddwr y Mis Brian Hughes yn sôn am y darnau sydd wedi dylanwadu ar ei yrfa.

Fy atgof cerddoriaeth glasurol cynharaf

Y darnau cyntaf un rwyn gofio'n glir oedd astudiaethau Czerny ar gyfer y piano, a hefyd Beethoven's Sonata in G, op49, rhif 2 (ffefryn gennyf mewn cyngherddau).

Y darn wnaeth fy ysbrydoli i fod yn gyfansoddwr

Y darn a'm hysbrydolodd i anelu at fod yn gyfansoddwr oedd y nefolaidd Symffoni rhif 9 Schubert... mae'r motif agoriadol i'r corn yn agor llwybr i fôr o alawon gwyrthiol, yn ogystal â drama sydd rywsut yn adlewyrchu bywyd byr y cyfansoddwr....... a hyn yn fwy dirdynnol gan  na chlywodd Schubert nodyn o'r symffoni yn ystod ei fywyd.

Cerddorfa West-Eastern Divan dan Daniel Barenboim yn perfformio 9fed Symffoni Schubert yn Proms y BBC 11 Awst 2024 â–¶ gwybodaeth

Beethoven.jpeg

Y darn faswn wedi hoffi sgwennu

Llawer o ddarnau yn hawlio lle yn fy meddwl! Concerto i'r gerddorf gan Bartok sy'n llawn  direidi, ac yn rhoi golwg prin o'r cyfansoddwr dyfeisgar hwn yn gwenu. 

​

Ionisation gan Edgar Varese. Tri ar ddeg o offerynau taro yn cynnwys y piano yn trawsnewid medrusrwydd rhyddm a lliwiau egsotig i fod yn chwe munud o greadigrwydd rhyfeddol.

​

Pedwar darlun o'r môr o opera Peter Grimes gan Benjamin Britten. Darnau sy'n creu awyrgylch y môr ar wahanol adegau, a darnau sy'n hyfrydu mewn lliwiau soniarus cerddorfaol.

PeterGrimes_English_1920x1080_edited.jpg

Mae cynhyrchiad WNO o Peter Grimes yn rhedeg o 5 Ebrill - 7 Mehefin 2025 â–¶ gwybodaeth

Darnau sy,n rhoi cysur

Nid yw cerddoriaeth yn rhoi cysur i mi; yn hytrach, mae hyd yn oed darn araf, tawel yn creu egni a brwdfydedd ynof, a chwant am fyw yn dragwyddol

Y gerddoriaeth sy'n tanio fy nychymyg

Golygfa'r fynwent allan o The Rake's Progress gan Stravinsky. Drama bywyd a marwolaeth sydd yma, ac yn fy atgoffa o'r gêm gwyddbwyll rhwng Angau a'r Marchog yn ffilm Bergman, "Y Seithfed Sêl".... mae yma feistrolaeth llwyr ar ynganiad yr iaith Saesneg o safbwynt cerddorol, a hefyd , fynegiant dwys o anobaith dynol a phwer Satanaidd. 

Stravinsky.png

Grange Festival Opera yn perfformio The Rake's Progress 23 Mehefin - 6 Gorffennaf 2024 â–¶ gwybodaeth

Igor Stravinsky gan Pablo Picasso

Y recordiad faswn yn ei roi fel rhodd

Pedwarawd llinynol Mozart 387. Roeddwn mewn cariad gyda hen recordiad Pedwarawd Amadeus, ond nawr baswn yn cyflwyno recordiad Pedwarawd Ariel, sy'n byrlymu o ysbryd chwareus,ac yn cynnwys finale ffiwg sydd yn llawn deilwng o Bach.

Amadeus 4tet 2.png

Pedwarawd Amadeus

bottom of page