Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Cyfansoddwr a chwaraewr bas dwbl yw Ashley John Long sy’n weithgar mewn amrywiaeth o genres. Astudiodd gyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a chael ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae comisiynau diweddar wedi cynnwys tair opera siambr a cherddoriaeth siambr, a chafodd ei waith cerddorfaol Karri ei berfformio am y tro cyntaf yn 2019 gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd wedi cyfansoddi llawer o gerddoriaeth i’r cyfryngau, dawns a theatr yn ogystal â gweithiau i ensembles jazz a byrfyfyrio.
Gwrandewch ar 'Edau Bywyd'...
Edau Bywyd – nodyn cyfansoddwr
Ro’n i am seilio’r darn yma ar sŵn sy’n treiddio drwy’r dirwedd bresennol. Gan fod y gwaith hwn yn cael ei osod yng nghapel amlffydd yr ysbyty a finnau eisiau sŵn a fyddai’n gweddu i ofod o’r fath, cloch eglwys oedd i’w gweld fel yr ateb amlwg, felly es i ati i recordio clychau Eglwys yr Holl Saint gerllaw, gyda help y canwyr clychau preswyl. Hefyd, dechreuais i weithio gyda Grŵp Awduron Cwmbrân i gasglu barddoniaeth newydd oedd yn ymdrin â’r dirwedd a’i hanes.
Roedd y farddoniaeth yn ysbrydoliaeth i’r cantorion ac mae hefyd yn gallu cael ei darllen gan y gwrandäwr os yw’n dymuno. Ro’n i’n awyddus i gynnwys cyfraniadau gan gynifer o aelodau cymunedau’r ward â phosibl, felly, yn ogystal â’r deunydd cerddorol a ddarparwyd gan y clychau, mae’r darn gorffenedig yn casglu lleisiau cantorion o hyd a lled y ward ynghyd â recordiadau o’r byd naturiol o gwmpas yr ysbyty newydd.
Gwnaethom siarad ag Ashley am y tirweddau a chymunedau cyfagos yr ysbyty, a'r ystod o synau a ysbrydolwyd ganddynt, yn ogystal â'r heriau a gyflwynwyd gan Covid.