Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Diwrnod Cerddoriaeth a Hil yng Nghymru yn Chapter,
Dydd Mawrth 15 Hydref 2024
rhan o Mis Hanes Pobl Dduon 2024 – Adennill Naratifau
10:30-18:30 (ac wedyn noson o berfformiadau cerddoriaeth am ddim)
Wedi’i gyflwyno gan Mirain Iwerydd a Roger Wilson
Ymunwch â TÅ· Cerdd, Black Lives in Music a TÂN Cerdd yn Chapter i gael diwrnod yn dathlu cerddorion Du, Asiaidd ac Aml-Ethnig yng Nghymru – a’r ffocws ar gydweithio i ddileu rhwystrau.
12 artist – rhai yn perfformio’n unigol, rhai gyda bandiau, o amrywiaeth o genres. Bydd tri pherfformiad arddangos, ac yn ganolog i’r digwyddiad bydd symposiwm sydd â ffocws ar weithredu.
Os ydych chi’n rhan o’r byd cerdd yng Nghymru, rydym eich angen chi yno – nid yw newid yn gallu digwydd heb eich llais chi yn yr ystafell!
Mae’r tocynnau yn rhad ac am ddim (ac yn cynnwys cinio a lluniaeth ysgafn), ond mae niferoedd yn gyfyngedig – felly os byddwch yn cofrestru, arhoswch drwy’r dydd
AMSERLEN
10:30 Coffi a chofrestru (Cyntedd y Sinema)
11:00 Arddangosiad #1: perfformiad byw gan bedwar artist (Stiwdio) wedyn cinio ysgafn
13:15 Arddangosiad #2: perfformiad byw gan bedwar artist, a dwy ffilm fer (Theatr)
14:45 Symposiwm – siaradwyr; trafodaeth banel; cyfarfod llawn a chamau gweithredu (Theatr)
17:00-18:30 Arddangosiad #3: perfformiad byw gan bedwar artis (Stiwdio)
o 18:30 ymlaen set DJ gan DJ Jaffa (Bar y Caffi)
​
​
​
​ARTISTIAID
Mae Bragod yn perfformio cerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg ganoloesol trwy arbrawf a dychymyg, gan ddefnyddio offerynnau a ffynonellau gwreiddiol. A hithau’n dod o Drinidad, mae Mary-Anne Roberts yn defnyddio ei chefndiroedd carnifal, adrodd straeon, dawns a theatr i ganu barddoniaeth yn feiddgar wrth ddawnsio patrymau deuaidd hen gerddoriaeth Gymraeg. Mae Robert Evans yn chwarae’r crwth, sef telyn bwa ganoloesol y mae ef wedi’i hadfywio.
Deuawd ddwyieithog o Ferthyr Tudful yw EADYTH, ac maen nhw’n gwneud tonnau yn y sîn roc amgen drwy sain sy’n cyfuno isleisiau soul â roc trwm, grunge, nu metal, a rhigolau roc electro blaengar. Eady Crawford yw cynhyrchydd, cyfansoddwr caneuon, prif leisydd, a gitarydd rhythm y band, a Rhodri Foxhall yw’r prif gitarydd a chyd-gyfansoddwr y mae ei waith gitâr deinamig yn ychwanegu dyfnder i’w cerddoriaeth.
Artist aml-genre o Gaerdydd yw Jessika Kay. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar R&B a Neo-Soul, ac yn defnyddio geiriau a llais llawn enaid arallfydol i gysylltu â phobl ledled y byd. Ers cychwyn ar ei thaith yn 2023, mae Jessika Kay eisoes wedi profi ei hun i fod yn berfformiwr medrus sydd â phersonoliaeth fawr.
Ers ei fynediad ffrwydrol i’r sîn gyda Best Believe ym mis Ionawr 2021 a’i albwm cyntaf Boy from the South a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, mae ManLikeVision, a aned yng Nghasnewydd, wedi denu sylw ar hyd a lled y wlad ac wedi dod yn adnabyddus am ei allu i neidio ar unrhyw guriad, unrhyw dempo, unrhyw lwyfan fwy neu lai, a chyflwyno perfformiad sy’n cystadlu â rhai o’r emcees enwocaf yn y wlad.
May Swoon yw prosiect synth-pop avant-garde yr act solo seibrpync Neo Ukandu o Nigeria-Cymru. Bathwyd yr enw May Swoon ym mis Tachwedd 2023, lle cafodd Neo eu set fyw gyntaf yn y Moon Club, Caerdydd. Erbyn hyn mae May Swoon yn falch o gael perfformio ei steil nodweddiadol o synth-pop avant-garde wedi’i ysbrydoli gan arddull mwyaf posibl yr 80au, ac arddull ôl-bync dim-tonfedd mewn llefydd fel Bryste, Llundain a’r union le a roddodd gartref iddynt yn y byd cerddorol, Caerdydd.
Mae Samantha, yn gantores/cyfansoddwraig ffync, soul, afrobeats sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Caiff ei hysbrydoli gan artistiaid sy’n cynnwys Childish Gambino, Greentea Peng, Erykah Badu, Daft Punk, a llawer mwy, i greu ei sain ei hun.
Mae Simmy Singh yn feiolinydd ac yn gyfansoddwraig o Gymru sydd am weithredu er lles y Ddaear. Ei chenhadaeth yw uno pŵer cerddoriaeth a chysylltiad â natur i ailgysylltu pobl â’u hunain, â’i gilydd ac â’r byd naturiol. Mae ei gyrfa eang wedi cynnwys cyd-sefydlu Manchester Collective, a chwarae gydag ystod eang o artistiaid ac ensembles. Hi yw Cydymaith Creadigol Sinfonia Cymru, ac yn ddiweddar mae wedi derbyn “Cymrodoriaeth Dyfodol Cymru” Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n rhoi cyfle i wyth artist yng Nghymru archwilio sut mae celf yn helpu cysylltu â byd natur.
Mae Thalia Ellice yn gantores-gyfansoddwr ddeinamig sy’n asio Alt-R&B a Pop, ac yn llwyddo i grefftio sain sy’n taro gwrandawyr ar lefel emosiynol ddofn. Mae ei cherddoriaeth wedi’i gwreiddio yn ei phrofiadau o’i bywyd personol, gan archwilio themâu fel cariad, hunaniaeth, a gwytnwch. Gyda llais teimladwy a geiriau twymgalon, mae Thalia yn gwahodd ei chynulleidfa i gysylltu â’i thaith drwy adrodd straeon pwerus ac alawon bythgofiadwy.
Mae Xempa yn brosiect cerdd newydd dan arweiniad yr artist Cymreig The Honest Poet. Gan gymysgu soul, R&B, y gair llafar a hip hop, mae Xempa yn creu sain newydd adfywiol, amrwd a phwerus iawn.
A hithau wedi graddio’n ddiweddar gyda gradd Meistr mewn Perfformio Lleisiol o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, cafodd Yingzi Song ei geni a’i magu yn Tsieina. Mae’n angerddol dros gysylltu ac arddangos diwylliannau Cymreig a Tsieineaidd trwy gerddoriaeth. Yingzi oedd yr enillydd cyntaf o Tsieina i ennill gwobr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Yn ogystal â chymryd rhan ar lwyfannau operatig, mae ei phoblogrwydd hefyd yn tyfu ar lwyfannau cyngerdd ledled Cymru a Tsieina.
Dechreuodd taith Zero Mile yn India, wrth iddynt ymdrwytho yn ei thraddodiadau cerddorol dwfn. Cantores glasurol Indiaidd amryddawn sy’n fedrus mewn harmoniwm a thanpura yw Amruta ac mae’n dod â genres cerddoriaeth Indiaidd i Zero Mile (sef Amruta, Jo, Richard a Pete). Trwy eu perfformiadau, mae Zero Mile yn asio dylanwadau’r Dwyrain a’r Gorllewin gyda’i gilydd heb fwlch.
Cantores Ladin-Americanaidd yw Zoila Garman sydd ag enaid creadigol. Mae ei rhythmau yn gymysgedd o Reggaeton, Afrobeats, ac R&B sy’n tarddu o wlad ei mam, Gweriniaeth Dominica. Mae ganddi sioe ar Radio Cardiff bob dydd Sadwrn am 1pm, lle mae’n cyflwyno artistiaid newydd a rhythmau Affro-Latino difyr ac ysgogol. Mae ei hangerdd am gerddoriaeth yn heintus ac mae ei llais yn bwerus a melodaidd.