top of page

Galw ar artistiaid o liw yng Nghymru, pob genre!

 

Mae Tŷ Cerdd, Black Lives in Music, TÂN Cerdd a Chapter
yn gwahodd cynigion perfformiad ar gyfer
SHOWCASE i arddangos doniau cerddorol artistiaid Du,
Asiaidd ac Aml-Ethnig yng Nghymru
ddydd Mawrth 15 Hydref yn Chapter, Caerdydd

 

 

  • Rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid o unrhyw genre – o jazz, clasurol a gwerin, i arddulliau soul, trefol, ac arbrofol. Croesawir popeth – rydym eisiau hyrwyddo’r gerddoriaeth orau sy’n cael ei gwneud gan Artistiaid o Liw yng Nghymru. Yr unig amod yw bod Artistiaid o Liw yn ganolog

  • Bydd artistiaid yn derbyn £300 fesul person am berfformiad 20 munud

  • Bydd SHOWCASE yn cynnwys tua 9 o artistiaid neu fandiau

  • Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys sgyrsiau sector ynghylch sut i fwrw ymlaen i hyrwyddo cerddorion Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru

 

I ymgeisio…

… lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n PORTH

1.     Manylion personol: eich enw, cyfeiriad ebost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18 oed (ac unrhyw un sy’n perfformio gyda chi)

2.     Dywedwch wrthym am eich gwaith:  rhowch grynodeb o’ch gyrfa fel crëwr cerddoriaeth a beth rydych chi wedi bod fwyaf balch ohono. (dim mwy na 150 gair)

3.     Enghreifftiau o’ch gwaith? atodwch 2 ddolen i’ch cerddoriaeth (ffilm neu sain yn unig). [sylwer: anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, rhowch wybod i ni.]

4.     Perfformwyr a manylion technegol: lanlwythwch fanylion yr holl berfformwyr perthnasol, ynghyd â manylebau/gofynion technegol

5.     A oes gennych unrhyw anghenion mynediad? Dywedwch wrthym os oes unrhyw gefnogaeth neu unrhyw amodau sydd eu hangen arnoch i’ch galluogi i gymryd rhan yn Showcase.

 

Amserlen a’r broses

  • Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 1000 dydd Llun 19 Awst 2024 [sylwer y bydd y porth yn cau am 1001]

  • Bydd y panel (Roger Wilson, Black Lives in Music; Dionne Bennett, TÂN Cerdd; Deborah Keyser, Tŷ Cerdd) yn cwrdd yn fuan ar ôl y dyddiad cau

  • Byddwn yn rhoi gwybod beth yw’r canlyniad i chi erbyn yr wythnos sy’n dechrau dydd Llun 2 Medi

 

Ar gyfer pwy mae’r cyfle hwn?

Artistiaid o Liw o unrhyw genre sydd am arddangos eu gwaith i’r sector yng Nghymru. Nid oes unrhyw amodau eraill! Rydym am gael cynrychiolaeth o’r gerddoriaeth wych, traws-genre, sy’n cael ei gwneud reit nawr gan artistiaid Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Showcase neu’r broses, mae pob croeso i chi anfon ebost atom.

 

 

Cyflwynir gan Tŷ Cerdd; Black Lives in Music; TÂN Cerdd; Chapter

Showcase logo strip_edited.png
bottom of page