top of page

Guto Pryderi Puw 1971

Astudiodd Guto Pryderi Puw Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gyda'r cyfansoddwyr John Pickard, Pwyll ap Siôn ac Andrew Lewis, gan ennill PhD mewn Cyfansoddi yn 2002. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn 2006 gan ganolbwynio yn bennaf ar Gyfansoddi, Cerddorfaeth a Cherddoriaeth Gyfoes. Fe'i penodwyd fel Pennaeth Cyfansoddi yn 2015.

Daeth Puw i lygad y cyhoedd gyntaf wedi ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1995 ac am yr ail dro yn 1997. Cafodd ei gerddoriaeth ei berfformio mewn gwyliau cerdd ar hyd a lled y DU ac wedi eu darlledu'n gyson ar radio a theledu. Yn Chwefror 2006 fe'i penodwyd fel y Cyfansoddwr Preswyl cyntaf i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda'r Concerto i'r Obo yn ennill categori Gwobr y Gwrandawyr yng Ngwobrau Cyfansoddwr Prydeinig 2007 a derbyniodd ‘…onyt agoraf y drws…’ premiere yn y Proms yn yr un flwyddyn, gan yn ddiweddrach ei ddewis fel yr ail ddarn cerddorfaol gorau gan gyfansoddwr Cymreig yng nghylchgrawn Gramophone yn 2015.

Yn 2013 derbyniodd Wobr Syr Geraint Evans gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am ei 'gyfraniad arwyddocaol i gerddoriaeth Cymru.' Yn ogystal, rhyddhaodd Signum Records ddetholiad o'i gyfansoddiadau cerddorfaol diweddar ar y CD Reservoirs yn 2014 a cafodd ei Concerto i’r Ffidil – Llonyddwch Tyner ei gynnwys ar y CD Violin Muse ar label Divine Art yn 2017. Derbyniodd ei gomisiwn opera cyntaf, Y Tŵr, a seiliwyd ar y ddrama gan Gwenlyn Parry ac i libretto gan Gwyneth Glyn, daith lwyddianus gan Theatr Gerdd Cymru yn y DU yn 2017.

Ers cryn amser bu Puw yn weithgar yn hyrwyddo cerddoriaeth newydd yng Ngogledd Cymru drwy ei gysylltiad gyda Gŵyl Gerdd Bangor, yr hwn y bu yn aelod gwreiddiol ac yn Gyfarwyddwr Artistig ers ei sefydlu yn 2000.

© 2018 Guto Pryderi Puw

ENGLISH

Guto Pryderi Puw read Music at Bangor University under composers John Pickard, Pwyll ap Siôn and Andrew Lewis, gaining his PhD in Composition in 2002. He was appointed as a lecturer in 2006, concentrating mainly on Composition and Contemporary Music and was appointed as Head of Composition in 2015.

Puw first came to prominence after winning the Composer’s Medal at the National Eisteddfod in 1995 and for the second time in 1997. His music has been featured in many festivals around the UK and broadcast regularly on Radio and television. In February 2006 he became the inaugural Resident Composer with the BBC National Orchestra of Wales, with his Concerto for Oboe winning the Listeners’ Award category at the British Composer Awards in 2007 and ‘…onyt agoraf y drws…’ (‘unless I open the door’) being premiered at the Proms during the same year, later to be chosen as the the 2nd finest orchestral work by a Welsh composer in the Gramophone magazine in 2015.

In 2013 He received the Sir Geraint Evans Award by the Welsh Music Guild for ‘his significant contribution to Welsh music’. Signum Records released a selection of his recent orchestral works on the CD Reservoirs in 2014 and his Violin Concerto – Soft Stillness was featured on the CD Violin Muse on Divine Art label in 2017. His first opera commission, Y Tŵr (‘The Tower’) based on the play by Gwenlyn Parry and with libretto by Gwyneth Glyn, was successfully toured by Music Theatre Wales to critical acclaim throughout the UK in 2017.

For many years Puw has been active in the promotion of new music in north Wales through his involvement with the Bangor Music Festival, being one of its founding members and Artistic Director since 2000.

© 2018 Guto Pryderi Puw

Only Breath digital square.jpg
bottom of page